Vlad Putin
Hefin Jones sy’n taro’i olwg unigryw arferol ar ddigwyddiadau’r wythnos a fu…
Brwydr Bass
Hawdd meddwl mai jôc ffŵl Ebrill oedd Shirley Bassey fel Buddug… sori, Boudicea, fel dywedodd eitemau newyddion ym mhob un o ieithoedd swyddogol Cymru, yn tra-arglwyddiaethu dros faes Caernarfon. Yn ergyd i’r honwyr mai byd o rwdlian yw celf weledol, dechrau ar benwythnos Cer i Greu – partneriaeth y BBC, Cyngor Celf a Beth Nesaf – ydoedd Bloedd Bassey. “The statue is a call to arms and action for people to embrace the arts,” esboniodd y dylunydd Marc Rees. “That’s why Bassey’s holding a spear.”
Y stori fawr
At ail stori fwyaf yr wythnos. Y dihiryn Vlad Putin oedd ar flaen y papurau wrth i sgandal Papurau Panama dorri. Ac mi gymrodd yr Irish Mirror i esbonio mai trigolion Prydain sy’n ymddangos fwyaf aml o beth wmbrath. A bod dros 100,000 o’r 214,000 cwmni wedi eu cofrestru o diriogaethau Y Deyrnas Unedig a’i threfedigaethau.
Arwain drwy esiampl
A gan bwy mae’r dyn tacs yn rhentu ei adeilad? Ydi, mae Her Majesty’s Revenue and Customs yn talu cwmni o’r enw CIHL Infrastructure Holdings sydd â’i bencadlys yn Jersey – er mwyn talu llai o dreth. Ac mae’r 600 o’u swyddfeydd rhanbarthol wedi eu cofrestru yn enw Mapeley Steps Limited, â’i bencadlys, yn naturiol, yn Bermuda.
Hwyr i’r parti
Methu’r rhuthr ar y dydd Llun wnaeth y Daily Express wrth fynd hefo ‘Holiday Bargains as Costs Tumble’. Byddai rhifyn dydd Mawrth yn taro’n galed felly gyda ‘Walnuts Prevent Heart Disease’. Oedd deffro erbyn tudalen flaen dydd Mercher? ‘Illegal Migrants Flooding Into EU’. Er, mewn print llai roedd ‘PM hits back’, sy’n cyfleu’r stori i’r dim. A beth oedd safbwynt y Daily Mail gan fod pencadlys eu cwmni hwythau’n Bermuda (nid oedd hynny yn y diosg mawr, mae’n ffaith hysbys ers blynyddoedd)? Beth arall ond ‘Revealed: The offshore money trail that leads from Vladimir Putin’s best friend…’
Y berthynas arbennig
Tabloid arall i blastro Putin dros y blaen oedd y Guardian, wrth esbonio i’w darllenwyr ‘much of the leaked material will remain private’. Mae’r bobol y tu ôl i’r datguddio mawr yn gwrthod rhyddhau’r dogfennau oll, dim ond 150 allan o 11 miliwn. Nid Wikileaks mo rhain felly. Eu henw yw’r International Consortium of Investigative Journalists, sydd â swyddfa’n Washington a’u harianwyr wedi eu diosg fel USAID (ariennir gan y llywodraeth), George Soros (drwy ei Open Society Fund), y Rockerfeller Brothers Fund a’r Ford Foundation. A’n rhyfedd does dim un Americanwr wedi’u henwi, ond mae’n edrych fel bod penderfyniad fod aberthu eu cyfeillion Eingl yn bris gwerth ei dalu.
Mwydro meddygon
Ymgyrchu syfrdanol gan Siôn Jones, ymgeisydd uchelgeisiol Arfon dros Lafur, drwy ddeisebu yn erbyn ‘cynlluniau toriadau Plaid Cymru i’r Gwasanaeth Iechyd’ a’n hedfan megis Icarws at yr haul drwy wthio’r ddeiseb ar bawb oedd yn mynd a dod drwy ddrws Ysbyty Gwynedd, gan fod rheolau llym iawn ar ganfasio gwleidyddol ar dir ysbytai. A phwy fydd yn derbyn y ddeiseb p’run bynnag?
Trydar trylwyr
Trylwyr oedd trydarwr apwyntiedig BBC Radio Wales i ail-drydar nifer o drydariadau Plaid Lafur Cymru am dros wythnos gyfan, ond heb aildrydaru’r pleidiau eraill o gwbl. Mae trydaru llawer mwy difyr gan Lafur Cymru, mae’n rhaid dweud.
Claddu dan waith papur
Wedi cael gwybod eu bod angen gwneud cais i hedfan baneri’r Ddraig Goch, Powys Fadog, Glyndŵr a Dewi Sant, dyna’n union wnaeth tafarn Saith Seren, Wrecsam. Ond ddeufis yn ddiweddarach daeth y newyddion gan Gyngor Wrecsam fod dim newyddion – nid oedd y cais wedi’i brosesu ar amser, a deufis yw’r amser hwnnw yr oedden nhw wedi methu â’i gyrraedd yn ôl canllawiau’r cyngor. “Unfortunately, due to workload pressure and limited resources this application was not determined within the eight weeks,” biwrocrateiddiodd Arweinydd Cynllunio ac Iechyd y Cyhoedd, y cynghorydd David Kelly. Gormod o geisiadau am fflagiau Prydain ar gyfer Y Pen-blwydd efallai?
Wedi colli’r map
Rhyddhaodd UKIP eu hymgeiswyr oll ar gyfer 5 Mai o’r diwedd, a’u gwefan yn dangos ymwybyddiaeth leol wrth enwi’r etholaethau yn ‘Alan and Deeside’ ac ‘Arvon’, cyn i rywun eithafol o fewn eu plaid eu Cymreigio.
Cau’r drws ar Gaerlŷr
Distaw aeth y stori fod clybiau mwyaf Lloegr yn cynllwynio gyda rhyw Americanwr mawr o’r enw Stephen Ross i greu cynghrair newydd i chwalu cystadleuaeth Cynghrair Pencampwyr Ewrop. Ond pwy a ddaeth i ddatgan na fydden nhw eisiau dim i’w wneud ag ef oedd Leicester City. Roedd Chelsea, Man U ayyb wedi eu gwadd i’r parti, gan mai nhw wedi’r cyfan sydd ar y top yn Lloegr lon, i gynllunio’r gynghrair gaeedig gyda chlybiau cyfoethocaf Ewrop. Wedi’r cyfan fe fyddai’n annheg bod timau ceiniog a dimau, yn hytrach na nhw, yn cael chwarae Real Madrid a Barcelona ‘mond oherwydd eu bod yn well am ennill gemau pêl-droed.