Mae cynlluniau gwerth £40 miliwn wedi eu cyhoeddi i droi un o adeiladau hanesyddol Caerdydd yn westy moethus.
Dywedodd cwmni Signature Living ei fod wedi arwyddo cytundeb a fyddai’n gweld y Gyfnewidfa Lo ym Mae Caerdydd, lle arwyddwyd y siec gyntaf erioed am £1 miliwn, yn cael ei adfer i’w hen ogoniant.
Mae cynlluniau hefyd i gynnig cyfleusterau cynadledda a phriodas yn ogystal â bwyty.
Nid dyma’r tro cyntaf i gynlluniau uchelgeisiol gael eu cynnig ar gyfer yr adeilad. Roedd cwmni Macob Exchange yn bwriadu troi’r adeilad yn fflatiau, bwytai a swyddfeydd – ond fe aeth y cwmni hwnnw i’r wal.
Adeilad godidog
Cafodd y Gyfnewidfa Lo ei hadeiladu rhwng 1883 a 1886 ac mae gan Signature Living hanes o adfer adeiladau hanesyddol wedi iddyn nhw wneud yr un fath gyda phencadlys White Star Line yn Lerpwl.
Dywedodd cyd-sylfaenydd Signature Living, Lawrence Kenwright: “Mae’r Gyfnewidfa Lo yn adeilad godidog.
“Mae ein cynllun i’w adfywio yn ei wneud yn rhywbeth y gall Caerdydd fod yn falch ohono unwaith eto.”