Mae merched ifanc yn cael eu talu 15% yn llai dynion – a hynny hyd yn oed os oes ganddyn nhw’r un fath o gymwysterau, yn ôl adroddiad newydd.

Dangosodd ymchwil gan undeb y TUC bod dynion rhwng 22 a 30 oed oedd â chymhwyster galwedigaethol uwch na lefel TGAU yn ennill £10 yr awr ar gyfartaledd.

Ond roedd merched o’r un oed oedd â’r un math o gymhwyster yn ennill dim ond £8.50 yr awr.

Roedd hynny, mae’n debyg, achos bod dynion yn fwy tebygol na merched o hyd o fynd i weithio mewn sectorau oedd yn talu’n dda, fel peirianneg ac adeiladu.

‘Angen mwy o anogaeth’

Yn ôl yr undeb, mae angen annog mwy o ferched i edrych y tu hwnt i swyddi sydd yn cynnig cyflogau is.

Dim ond un o bob 40 cymhwyster galwedigaethol ym maes adeiladu gafodd ei hennill gan ferched yn 2015, yn ôl ffigyrau swyddogol.

Ychydig dros 10% o gymwysterau tebyg ym maes peirianneg a chynhyrchu oedd yn mynd i ferched, o’i gymharu â 63% ym maes iechyd a gofal.

“Mae llawer yn parhau i fynd ar ôl gyrfaoedd mewn diwydiannau ‘traddodiadol’ sydd yn cynnig cyflogau is. Ond does dim cymaint ohonyn nhw mewn sectorau fel peirianneg ac adeiladu,” meddai ysgrifennydd cyffredinol y TUC Frances O’Grady.

“Os nad ydyn ni’n herio stereoteipio a gwahaniaethu o’r cychwyn, dyw’r sefyllfa ddim yn mynd i wella.”