Kirsty Williams (llun: Gwefan y Lib Dems)
Byddai Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn cyflwyno llinell gymorth i’w gwneud hi’n haws i staff y Gwasanaeth Iechyd ‘chwythu’r chwiban’ yn ddienw.

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams, y byddai’r cynllun yn rhoi cyfle i weithwyr iechyd leisio pryderon heb orfod ofni’r canlyniadau.

Mae Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA) yng Nghymru wedi bod yn galw ar Lywodraeth Cymru a’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru i drafod newid y polisi ‘chwythu’r chwiban’ presennol.

Yn Yr Alban, mae llinell gymorth ‘chwythu’r chwiban’ yn ddienw i staff y Gwasanaeth Iechyd. Ar hyn o bryd yng Nghymru, mae’r Llywodraeth yn nodi gwahanol brosesau all byrddau iechyd roi mewn lle, ond mae’r polisïau yn anghyson ar draws y wlad.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn galw am roi un system ar waith mewn byrddau iechyd dros Gymru, os yw gweithwyr yn dymuno codi pryderon am ddiogelwch cleifion neu roi gwybod am gamymddwyn.

Dywedodd Kirsty Williams: “Mewn rhannau o’n Gwasanaeth Iechyd, mae diwylliant o ofn, bwlio a chyfrinachedd yn parhau.

“Dros y blynyddoedd diwethaf rydym wedi gweld nifer o adroddiadau brawychus ynghylch gofal o fewn ein Gwasanaeth Iechyd sy’n dangos methiant llwyr o’r systemau a ddylai fod ar waith i amddiffyn y bobl fwyaf agored i niwed.

“Mae angen i ni annog diwylliant o fod yn agored yn y gweithdrefnau chwythu’r chwiban er mwyn sicrhau mwy o annibyniaeth.”

Mae BMA Cymru wedi dweud eu bod yn dymuno gweld Siarter Codi Pryderon sy’n cael ei adnewyddu’n rheolaidd er mwyn annog staff i leisio pryderon mewn ffordd gefnogol.