Mae gweinidog chwaraeon Rwsia wedi dweud na fydd unrhyw un yn wynebu cyhuddiadau troseddol yn dilyn y sgandal gyffuriau fwyaf yn hanes y wlad.
Mewn adroddiad ym mis Tachwedd fe ddywedodd Asiantaeth Wrthgyffuriau’r Byd (WADA) bod cyffuriau wedi bod yn cael eu defnyddio’n systematig, a chyda chefnogaeth y wladwriaeth, ymysg athletwyr Rwsia.
Roedd cyhuddiadau hefyd bod swyddogion y wlad wedi ceisio celu’r twyll oddi wrth yr awdurdodau chwaraeon.
Ond fe ddywedodd gweinidog chwaraeon Rwsia, Vitaly Mutko, bod erlynwyr y wlad wedi archwilio adroddiad WADA “yn ofalus, ac wedi methu â dod o hyd i’r un ffaith sydd yn dal dŵr yn gyfreithiol er mwyn gallu agor unrhyw fath o achos”.
Mae adroddiad WADA eisoes wedi arwain at athletwyr Rwsia’n cael eu gwahardd o’r Gemau Olympaidd sydd yn digwydd nes ymlaen eleni yn Rio de Janeiro ym Mrasil.