Grug Muse
Parhau i frwydro am gyfandir gwell – a chenedl well – sydd angen i ni ei wneud, yn ôl Grug Muse…

Dw i’n sgwennu hwn o ‘stafell aros maes awyr Francisco Sá Carneiro ym Mhorto. Ar y sgrin deledu o fy mlaen i, rhwng uchafbwyntiau’r pêl-droed, mae’r newyddion diweddara o Frwsels yn dod drwodd, yn fflachiadau o wydr toredig, stafelloedd llawn mwg a phlismyn blinedig.

Dydi’r lluniau o’r clwyfedigion a’r hersiau heb gyrraedd y tonfeddi eto, na’r nifer terfynol o laddedigion.

Draw ar Twitter ac mae ffrydiau La Vanguardia, El Mundo, ac El País yn dal i fod yn llawn straeon am y 13 o fyfyrwyr Erasmws a laddwyd mewn damwain fws yn Tarragona dros y penwythnos.

Dw i’n dangos fy mhasbort i’r dyn rheoli ffiniau – tydi Prydain, wrth gwrs, ddim o fewn parth teithio rydd Schengen.

A dyw a ŵyr lle fyddwn ni’r adeg yma flwyddyn nesa’. Dal yn ddinasyddion Ewrop? Dal yn ddinasyddion Prydain, tase hi’n dod i hynny?

Wythnos dywyll

Mae ‘na nifer wedi bod yn darogan ers blynyddoedd tranc y freuddwyd Ewropeaidd a dyfodol Prydain fel rhan ohoni.

Bron cyn i’r plismyn ym Mrwsel gael gwneud eu careiau a chau eu balog, mi roedd ‘na rai ar Twitter yn defnyddio’r ymosodiad ym Mrwsel i gefnogi gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Math arbennig o lwfrdra ydi troi eich cefn ar eich cyfeillion ar yr union foment pan maen nhw’n dawnsio rhwng bwledi, ond dyna ni, dyna un o’n breintiau ni fel ynys ydi ein bod ni’n medru.

Does ‘na ddim prinder o bobol yn Ewrop sy’n barod i gyhuddo Prydain o fod yn barod i odro Ewrop tra bod hynny o fantais, a’i miglo hi oddi yno’r eiliad mae pethau’n edrych yn ddu.

Mae hi’n wythnos dywyll iawn i’r freuddwyd Ewropeaidd. Mae marwolaeth y myfyrwyr Erasmws, rhan o raglen fwyaf llwyddiannus yr UE, y mwyaf ideolegol ac idealistig fel rhyw fath o ddrwgargoel tywyll.

Ar yr un pryd mae gallu Ewrop i wireddu ei haddewid gwreiddiol, “Heddwch yn Ewrop”, yn cael ei danseilio gan y math o fygythiad na fyddai penseiri’r undeb nôl yn y 40au a’r 50au fyth wedi dychmygu.

Methiant y Cynulliad

Breuddwyd arall sydd wedi troi’n siom, fel coffi llugoer mewn gorsaf drên yng Nghaerdydd Ganol, ydi’r breuddwydion oedd ynghlwm â sefydlu ein Cynulliad Cenedlaethol ni yn y Bae nôl yn 1999.

Mae’r Cynulliad yr un oed a fy chwaer fach i, ac mi allwn i ddadlau efo argyhoeddiad fod fy chwaer fach wedi cyflawni mwy o werth yn ei 16 mlynedd o fodolaeth.

Ydi’r Cynulliad yn medru cau ei griau ei hun, adrodd tabl 7 a chwarae’r ffidil? Nac ydi beryg.

Ond i ddifrifoli – roedd ‘na obeithion mawr ynghlwm â sefydlu ein Cynulliad Cenedlaethol ni ein hunain.

Y gallu i fuddsoddi yn ein datblygiad ni ein hunain, cryfhau’r economi a buddsoddi er bydd Cymru, nid bwydo dinasoedd ochor draw i’r ffin; gwella safonau byw a safon addysg yng Nghymru, gwneud yn iawn esgeulustod cronig.

Wedi un ar bymtheg o flynyddoedd o deyrnasiad y blaid Lafur, y prif deimlad ynglŷn â’r hyn sydd wedi ei gyflawni gan y llywodraeth yng Nghaerdydd ydi siom mewn llywodraeth sydd wedi meistroli’r grefft o dangyflawni.

Diffyg ffydd?

Dadleuwch faint fynnoch chi mai materion economaidd, neu liberal-institutionalism, neu pa bynnag rym abstract sydd yn gyfrifol am ein sefydliadau mawrion a’u llwyddiannau neu fethiannau – mae angen dos go fawr o ffydd i wneud iddyn nhw lwyddo.

Rhaid i ni gredu yn ein sefydliadau er mwyn iddyn nhw gyflawni eu potensial. Falle am i ni osgoi cael ein rheibio cynddrwg â’n cefndryd cyfandirol gan ffasgiaeth a’r Rhyfel Mawr y bu i Brydeinwyr erioed ymroi mor frwdfrydig â hynny i’r freuddwyd Ewropeaidd, a gallu’r Undeb Ewropeaidd i greu Ewrop well.

A falle ein bod ni’n gadael i Lafur rygnu ymlaen efo’i agenda o ddiffyg-uchelgais am ein bod ni yn meddwl mai breuddwyd ffŵl ydi’r freuddwyd honno o Gynulliad a all greu Cymru well.

Y freuddwyd

Ond meddyliwch am y bws hwnnw yn Nharragona. 13 o fyfyrwyr o hyd a lled gwledydd Ewrop, oedd yn cyd-astudio, cyd-fyw, yn cyd-feddwi a chyd-fwyta, yn gwneud pethe gwirion, ac yn gwneud pethau call.

Yn gwneud cysylltiadau a rhwydweithiau fydd yn eu clymu nhw i bob rhan o’r Undeb Ewropeaidd, a thu hwnt, o Coimbra i Tuzla, o Helsinki i Naples.

Pan fydd bom yn ffrwydro yn Ankara neu ym Mharis, mi fydda nhw ar eu ffonau yn gwneud head-counts i wneud yn siŵr fod eu ffrindiau nhw yn ddiogel.

Dyma’r freuddwyd Ewropeaidd, a dyma fydd nifer o’r rheini fydd yn pleidleisio dros aros yn yr Undeb yn pleidleisio drosto ym Mehefin.

Rhoi rheswm i gredu

Eleni mae peryg i rywun flincio ddechrau Mai a chael eu bod wedi methu etholiadau’r Cynulliad yn gyfan gwbl, wedi ei guddio y tu ôl i fegaliths y refferendwm Ewropeaidd a ras arlywyddol yr Unol Daleithiau.

Mae ‘na beryg go iawn y gwelwn ni aelodau o blaid UKIP yn cael eu hethol i’r Cynulliad. A faint o wir ots fydd gan neb? Faint ohonom ni sydd wir yn meddwl fod tynged Cymru am gael ei newid mewn unrhyw ffordd arwyddocaol ar ôl 6 Mai?

Mae’r rhain yn ddyddiau tywyll. A rhwydd hynt i chi fy ngalw i yn naïf a diniwed am alw am optimistiaeth o dan y ffasiwn amodau.

Ond onid cyfrifoldeb yr ifanc ydi bod yn naïf a gobeithiol yng ngwyneb sefyllfaoedd anodd, petai hynny ond i gydbwyso pesimistiaeth y sinigiaid?

Ein creadigaethau ni ydi’r Cynulliad a’r Undeb Ewropeaidd yn y diwedd, a heb i ni gredu yn ein creadigaethau ni ein hunain, dim ond trengi a wnawn nhw.

Sialens y sefydliadau hyn yn y misoedd nesa’ yma fydd rhoi rheswm i ni ddal i gredu.

Mae Grug Muse yn gyn-fyfyrwraig Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Nottingham a bellach yn byw ym Madrid.