Protest y ffermwyr yn Llundain ddydd Mercher (llun: Cheryl Thomas)
Mae tua 2,000 o ffermwyr Prydain, gan gynnwys rhai cannoedd o Gymru, yn protestio yn Llundain heddiw gan alw am bris teg am eu cynnyrch.

Bydd y protestwyr yn gorymdeithio drwy ganol Llundain gan orffen yn Whitehall, ble bydd llythyr yn cael ei gyflwyno i’r llywodraeth yn galw arnynt i sicrhau tegwch i ffermwyr y wlad.

“Y prif sylw fydd yn cael ei rhoi heddiw fydd y prisiau gwael rydyn ni’n cael am ein cynnyrch, boed e’n llaeth, cig, wyau,” meddai Cheryl Thomas, ffermwraig o ardal Cydweli sydd yn y brotest heddiw ynghyd â 120 arall o Sir Gâr.

“Dyw’r cyhoedd ddim yn gwybod am y mewnforio sy’n dod o wledydd sydd ddim â’r un regulations â ni. Ni’n gorfod gweithio cymaint yn galetach i dicio’r bocsys tra bod llaeth, cig ac wyau yn dod i mewn heb regulations.

“Felly rydyn ni’n cael ein twyllo ac mae’r cyhoedd yn cael eu twyllo hefyd.”

Dyfodol du i’r diwydiant

Roedd Cheryl Thomas yn rhoi’r bai ar Lywodraeth Prydain am geisio cael bwydydd rhad i’r wlad er mwyn “dod mas o’r dirwasgiad”, ac mae hi am weld mwy yn cael ei wneud i farchnata cynnyrch o Gymru a Phrydain.

“Rydyn ni’n galw am bris teg, achos ry’n ni’n talu fairtrade i bobol dramor fel eu bod nhw’n gallu cael addysg. Ni am gael pris teg er mwyn cadw’r diwydiant i fynd i’r genhedlaeth nesaf,” esboniodd wrth golwg360.

Ychwanegodd ei bod hi’n ceisio peidio meddwl am ddyfodol y diwydiant yng Nghymru gan fod y rhagolygon mor ddu.

“Mae ffermwyr yn mynd i’r wal, a fydd cefn gwlad ddim yn lle neis i fyw rhagor,” meddai.

Defaid ar y strydoedd

Roedd rhai o’r ffermwyr oedd yn protestio yn fwy creadigol na’i gilydd yn eu dulliau – gydag ambell un hyd yn oed yn dod â’u hanifeiliaid gyda nhw!

Prisiau ar i lawr

Mae Cheryl Thomas a’i gŵr wedi bod yn cadw fferm laeth â thua 230 o wartheg ers 16 mlynedd, ac mae’n dweud nad yw hi erioed wedi gweld pethau cyn waethed â hyn.

Erbyn hyn mae rhai ffermwyr wedi gweld pris eu llaeth yn gostwng i 12c y litr, meddai, ac mae hi a’i gŵr bellach yn cael 20c y litr sydd 10c yn llai na’r hynny roedden nhw’n ei gael 18 mis yn ôl.

Mae’r sefyllfa’n “ofnadwy o wael”, ychwanegodd, mewn diwydiant sydd mor “ranedig”.