Nid oedd Heddlu Gwent wedi gwneud digon i warchod dynes a ddioddefodd drais yn y cartref yn 2014, yn ol adroddiad gan Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC).

Cafodd Christine Evans anafiadau i’w phen, ei gwddf a’i brest yn dilyn ymosodiad gan ei chynbartner Martin Bowen ddwy flynedd yn ôl.

Roedd ymchwiliad gan yr IPCC wedi dweud bod Christine Evans wedi cysylltu â’r heddlu bedair awr cyn i Bowen ddod i mewn i’w chartref yng Nghasnewydd – ond nad oedd yr un swyddog wedi mynd yno.

Fe allai’r ymosodiad hefyd fod wedi cael ei atal petai’r heddlu wedi arestio Bowen yn y dyddiau’n arwain at y digwyddiad, meddai adroddiad yr IPCC.

Mae dau blismon wedi cael rhybudd ac un arall wedi cael cyngor rheoli yn dilyn ymchwiliad i’r ffordd y gwnaeth Heddlu Gwent ymdrin a’r ymosodiad yn 2014.

Fe benderfynodd yr IPCC i roi rhybudd ysgrifenedig terfynol i un plismon, rhybudd ysgrifenedig i ail blismon a chyngor rheoli i’r trydydd, sef y swyddog a dderbyniodd yr alwad ffôn wreiddiol.

Cafwyd Martin Bowen yn euog yn Llys y Goron Caerdydd ym mis Medi 2014 o ymosod ar Christine Evans, ac fe gafodd ei garcharu am wyth mlynedd.

Camymddwyn

Daeth y IPCC i’r casgliad fod sail i ymchwilio i gamymddwyn gan weithredydd ffonau’r heddlu am iddo beidio diweddaru cofnodion.

Fe ddywedodd adroddiad y IPCC hefyd fod nifer o alwadau y dylid fod wedi’u blaenoriaethu heb gael ymdriniaeth ddigonol.

Roedd Christine Evans wedi rhoi gwybod i’r heddlu am negeseuon testun gan Bowen a oedd yn groes i rybudd yr oedd wedi’i dderbyn am aflonyddu arni.

Ond nid oedd yr heddlu wedi ymateb i’r alwad, ac mi gafodd hi ei thrywanu gan Bowen y bore canlynol.

Roedd asesiad risg eisoes wedi nodi bod Christine Evans mewn perygl cyn y digwyddiad hwnnw.

Fe allai Heddlu Gwent fod wedi’i arestio cyn yr ymosodiad, a hynny am ei fod wedi bod yn curo ar ddrws a ffenestri Christine Evans ac wedi bod yn ei ffonio.

Siaradodd yr heddlu â Bowen dros y ffôn i’w rybuddio, ond doedd dim cofnod bod trosedd wedi’i chyflawni.

Bum niwrnod yn ddiweddarach, ffoniodd Christine Evans yr heddlu i ddweud ei bod hi wedi derbyn negeseuon gan Bowen, ac fe ddylai’r heddlu fod wedi galw heibio o fewn awr. Ond cafodd y plismon oedd i fod i ymateb i’r digwyddiad ei anfon i ymdrin ag achos arall.

Ar y diwrnod dan sylw, roedd gan Heddlu Gwent 283 o gofnodion nad oedden nhw wedi ymateb iddyn nhw.

Ym mis Chwefror 2013, roedd yr heddlu wedi ymateb i alwad am drais yn y cartref yn dilyn ffrae rhwng y ddau, a chafodd Bowen ei gludo i dŷ cyfagos oedd o fewn pellter cerdded i gartref Christine Evans.

Ond nid oedd yr heddlu wedi gwirio cofnodion Bowen nac wedi cofnodi’r digwyddiad yn fanwl.

‘Siomedig’

 

Dywedodd Comisiynydd IPCC Cymru, Jan Williams ei bod hi’n “siomedig” fod tebygrwydd rhwng yr achos hwn a nifer o achosion eraill Heddlu Gwent.

Ychwanegodd fod rhaid i Heddlu Gwent wella’u hymateb i achosion o drais yn y cartref, a dywedodd fod “materion systematig” y byddai’n rhaid ymdrin â nhw.

“Roedd Christine Evans yn gofyn am flaenoriaethu ymateb ar y noson cyn yr ymosodiad, ond nid aeth yr un plismon yno.”

Ychwanegodd fod “pryder” am nifer yr achosion yr oedd yr heddlu’n ymdrin â nhw ar y pryd.

‘Dioddefwyr wrth galon gwasanaethau Heddlu Gwent’

Wrth ymateb i’r ymchwiliad, dywedodd y Prif Gwnstabl Jeff Farrar: “Mae un achos o gamdrin domestig yn un yn ormod.

“Mae Heddlu Gwent yn parhau i wneud cynnydd yn y ffordd yr ydym yn ymateb i ddigwyddiadau o’r natur yma ac yn ymchwilio iddynt.”

Ychwanegodd fod staff wedi derbyn hyfforddiant ychwanegol yn sgil yr achos hwn, a bod newidiadau yn strwythur yr heddlu wedi codi lefelau bodlonrwydd y cyhoedd.

“Mae dioddefwyr yn parhau wrth galon ein gwasanaeth ac mae ein staff yn ymdrechu o hyd i wneud eu gorau ar ran y cyhoedd yr ydym oll yn ei wasanaethu.

“Rydym wedi dysgu o’r digwyddiad ofnadwy hwn ac mae ein perfformiad diweddar o ran ymdrin â phobl fregus wedi derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol bositif gan HMIC.”