Joe Chucas
Ddylen ni ddim parhau i anwybyddu annhegwch y system bleidleisio, yn ôl Joe Chucas…
Dyddiau yma, mae diffyg effeithiolrwydd gwladwriaeth ‘dwy blaid’ mor gyfarwydd fel ein bod ni’n anghofio ei bod hi’n tanseilio llywodraethu effeithiol.
Mater o egwyddor yw’r pwynt dw i am ei danlinellu – mae gan bawb flaenoriaethau a barn wahanol am wleidyddiaeth, ond waeth pa blaid ‘dych chi’n ei gefnogi, mae dyletswydd i sicrhau bod pleidlais pawb yn cael ei chynrychioli.
Mae’r diffyg gwybodaeth glir a gawn ni yn y cyfryngau yn golygu ei bod hi’n anodd iawn i allu penderfynu dros ein hunain pa system bleidleisio sydd orau, ac mae hi’n gallu bod yn bwnc hynod gymhleth.
Er hyn, mae un peth yn amlwg. Mae’r system ‘cyntaf i’r felin’ yn warthus.
Dwy ddim yn ddigon
Mae hyn yn cael ei danlinellu wrth ystyried bod tri etholiad ym Mhrydain (1874, 1951 a 1974) ble mae’r blaid â’r ail nifer fwyaf o bleidleisiau wedi ennill y nifer fwyaf o seddi.
Hynny yw, er gwaethaf penderfyniadau’r Deyrnas Unedig i gyd, ni chafodd y blaid â’r nifer fwyaf o bleidleisiau’r hawl i redeg y wlad fel oedd y dinasyddion wedi penderfynu. Fe allwn ni ond ryfeddu at y fath hurtrwydd!
Mae hi’n syndod llwyr fod pobl yn credu taw gwladwriaeth dwy blaid sy’n gwasanaethu pobl Prydain – does dim amheuaeth ei bod hi’n amhosibl hollti safbwyntiau 60 miliwn o bobl i mewn i ddau grŵp.
Methiant llwyr fuasai ceisio cynrychioli’r sbectrwm gwleidyddol gyda dau grŵp yn unig (wrth ystyried gwyrddion, cenedlaetholwyr, undebwyr gwrth-Ewropeaidd, ffederalwyr, rhyddfrydwyr ayyb).
Esiamplau Ewropeaidd
Ceir llawer o sôn mai clymbleidiau fyddai canlyniad pleidleisio dros bleidiau eraill mewn system wahanol, gan greu ‘llywodraethau gwan amhendant’.
Ni ellir llai na rhyfeddu at y fath syniad wrth edrych ar wleidyddiaeth gwledydd eraill.
Prin iawn ydi’r gwledydd Ewropeaidd heb ‘glymbleidiau gwan’ – fel Lwcsembwrg (gyda GDP ddwywaith yr hyn sydd gan y DU), Norwy (y wlad fwyaf democrataidd yn y byd ac un o’r rhai mwyaf addysgedig), a Denmarc (sydd â’r gyfradd symudedd cymdeithasol uchaf yn y byd).
Ystyriwch sefyllfa ein cefndryd Ewropeaidd – pam ddylen ni ddim ond dewis rhwng dwy blaid?
Mae hi’n fater o egwyddor democrataidd bod dinasyddion Prydain yn cael eu cynrychioli yn San Steffan, yn ôl y nifer o bleidleisiau gafodd eu plaid.
Cau UKIP allan
Ond mae’r sefyllfa bresennol ymhell o fod yn dangos hynny – am bob sedd gawson nhw yn San Steffan roedd yn rhaid i’r Ceidwadwyr dderbyn tua 34,300 pleidlais, a Llafur tua 40,300.
Ar yr un pryd, roedd rhaid i Blaid Cymru dderbyn 60,600, roedd rhaid i’r Gwyrddion dderbyn dros 1.1miliwn ac fe gafodd UKIP un sedd am dros 3.9miliwn pleidlais.
Nid democratiaeth ar waith yw hyn.
Fe wnaiff lot o bobl gwyno na ddylai UKIP gael llais oherwydd eu bod nhw mor eithafol – ond mae angen cofio bod angen cynrychioli safbwyntiau pawb.
Trwy roi llais iddyn nhw rydyn ni’n caniatáu i’r cyhoedd a’n gwleidyddion ddadlau yn erbyn y fath eithafiaeth, rhesymu gyda’r eithafwyr a’u curo nhw’r ffordd yna.
Yn wir, mewn sawl ffordd, gellir dweud taw sicrhau bod ganddynt lais yw’r ffordd orau o’u trechu, a’r unig ffordd o drechu unrhyw fath o eithafiaeth yn iawn – cwestiynu rhesymeg pobl hiliol a chas ar lwyfan gwleidyddol .
Annemocrataidd
Dydi natur gyfyngedig gwladwriaeth dwy blaid ddim yn gwasanaethu na chynrychioli sbectrwm gwleidyddol y Deyrnas Unedig.
Ddylai pleidleisio ddim bod yn ddeuol – dyw’r ddau opsiwn o Lafur neu Geidwadwyr ddim yn ddigon ac felly dylai system gyfrannol gael ei ddefnyddio.
Mae’r cyfaddawd o gael clymblaid yn golygu mwy o benderfyniadau yn unol â blaenoriaethau a safbwyntiau pobl y wlad.
Heb os nac oni bai, mae gwladwriaeth ddwy blaid yn annemocrataidd. Er mwyn i wlad gael dyfodol llewyrchus mae angen sicrhau datblygiadau mewn isadeiledd, addysg, yr economi a safon byw, megis hyn y ceir yn y gwledydd sydd yn cynrychioli ei thrigolion orau, ac felly llywodraethu fel mae’r bobl eu hunain yn ei ddymuno.
Gwelir safon uwch o ddemocratiaeth yn yr Alban a Chymru oherwydd datganoli – mae’r system aelodau ychwanegol a ddefnyddir yn ein cynrychioli ni lawer gwell, ac mae’n agosach at system hollol gyfrannol na ‘cyntaf i’r felin’.
Ar y llaw arall mae San Steffan dal â’r hen system ddwy blaid maen nhw wedi’i ddefnyddio ers 1884.
Mae hi’n hen bryd i ni gysylltu’r broses wleidyddol â phawb, ac nid dau grŵp ynysig yn unig.
Mae Joe Chucas yn fyfyriwr o Brifysgol Caerdydd ac yn astudio Busnes ar gynllun Erasmus ym Mhrifysgol Toulouse yn Ffrainc.