Dave Phillips
Mae llanc wedi’i garcharu am 20 mlynedd ar ôl ei gael yn euog o ddynladdiad plismon a gafodd ei daro â cherbyd oedd wedi’i ddwyn.

Roedd yr heddwas Dave Phillips, 34, wedi marw bron yn syth ar ôl cael ei daro gan y tryc oedd yn cael ei yrru gan Clayton Williams, 19, wrth iddo geisio ffoi oddi wrth yr heddlu yn dilyn lladrad ar Hydref 5 y llynedd.

Cafwyd Williams yn ddieuog o lofruddiaeth, gan fod y rheithgor yn Llys y Goron Manceinion, wedi dod i’r casgliad nad oedd wedi bwriadu lladd na niweidio’r swyddog yn ddifrifol.

Roedd Clayton Williams, sy’n gaeth i ganabis, ac sy’n honni ei fod wedi bod yn defnyddio’r cyffur ers ei fod yn chwech oed, wedi cyfaddef iddo achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus ond nad oedd wedi bwriadu lladd y tad i ddau.

‘Byw fy hunllef waethaf’

 

Mewn penderfyniad annisgwyl, fe wnaeth gwraig Dave Phillips, Jen, ddarllen ei datganiad yn y llys heddiw, o flaen Clayton Williams.

“Mae gweithredoedd Mr Williams wedi effeithio fy mywyd yn ddramatig,” meddai.

Dywedodd nad yw hi’n gallu cysgu rhagor a phan fydd hi, ei bod yn breuddwydio bod ei gŵr yn dal i fod yn fyw.

“Bob nos, dw i’n troi drosodd yn y gwely, yn edrych ar ochr fy ngŵr o’r gwely, y bwlch gwag nesaf i mi, lle dylai fy ngŵr fod yn cysgu.

“Rwy’n dymuno nos da iddo ac yn dweud cymaint rwy’n ei garu ac yn gweld ei eisiau. Mae’r dagrau’n dilyn, wrth i mi grio fy hun i gysgu bob nos.

“Hyd yn oed erbyn hyn, rwy’n cau fy llygaid ac yn gweddïo bod hyn yn freuddwyd ofnadwy. Rwy’n byw fy hunllef waethaf.”

Dywedodd fod Clayton Williams wedi chwalu ei theulu ac nad yw hi’n gallu meddwl am orfod parhau heb ei gŵr wrth ei hochr.

“Alla’i ddim â rhoi mewn geiriau cymaint mae fy nghalon wedi torri a chymaint mae Mr Williams wedi fy chwalu. Fi a fy mhlant yw’r rhai sy’n byw dedfryd oes, gan fod ein poen yn rhywbeth sy’n mynd i fod gyda ni am byth.”