Jeremy Corbyn
Mae arweinydd y Blaid Lafur Jeremy Corbyn wedi dweud y dylai George Osborne “ystyried ei sefyllfa” wrth i weinidogion baratoi i sgrapio’r toriadau arfaethedig i fudd-daliadau anabledd gafodd eu cyhoeddi yn ei Gyllideb.
Mae’r arweinydd Llafur wedi annog y Canghellor i ddod i Dy’r Cyffredin i esbonio sut y bydd yn “ail lunio” ei gynlluniau gwariant yn sgil ymddiswyddiad annisgwyl Iain Duncan Smith dros doriadau lles.
Mae’n debyg y bydd yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau newydd, Stephen Crabb, yn dweud wrth Aelodau Seneddol mewn datganiad heddiw eu bod yn rhoi’r gorau i’r toriadau i’r Taliad Annibyniaeth Personol (PIP).
Ac mae disgwyl i’r Prif Weinidog David Cameron amddiffyn record ei Lywodraeth pan fydd yn ymddangos yn y Senedd heddiw i adrodd ynglŷn â’r uwchgynhadledd ym Mrwsel wythnos ddiwethaf a oedd yn trafod yr argyfwng ffoaduriaid.
Mae’n dilyn adroddiadau dros y penwythnos sy’n awgrymu bod “rhyfel cartref” o fewn y Blaid Geidwadol.
Mae gweinidog y Cabinet Greg Clark wedi galw ar y Ceidwadwyr “i ddod ynghyd unwaith eto” ac osgoi “ffraeo” ymysg ei gilydd.
‘Angen i Osborne esbonio’
Mae Jeremy Corbyn wedi awgrymu y dylai George Osborne sgrapio toriadau mewn treth gorfforaethol a threth ar enillion cyfalaf a gyhoeddwyd yn y Gyllideb er mwyn llenwi’r bwlch o £4 biliwn sydd wedi ei adael yn sgil y tro pedol ynglŷn â thoriadau i fudd-daliadau anabledd.
“Nid yw ei Gyllideb yn gwneud synnwyr. Fe ddylai’r Canghellor ddod yn ôl i’r Senedd i esbonio hynny ac egluro ei sefyllfa,” meddai Corbyn wrth Good Morning Britain.
‘Angen datganoli mwy o bwerau dros les i Gymru’
Yn y cyfamser mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood wedi rhybuddio am “fwy o lanast a thoriadau” os bydd y Ceidwadwyr yn ennill grym yn etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai.
Dywedodd fod toriadau’r blaid Geidwadol yn “taro’r bobl fwyaf bregus galetaf”, a bod y “chwalfa” ynghylch ymddiswyddiad Iain Duncan Smith yn dangos “beth allwn ni ddisgwyl os bydd pobl yn pleidleisio dros y Torïaid yng Nghymru.”
Mae Leanne Wood yn galw am ddatganoli mwy o bwerau dros les i Gymru “er mwyn sicrhau system decach a mwy effeithiol.”
“Mae Plaid Cymru yn croesawu’r tro pedol hwn ar doriadau i Daliadau Annibyniaeth Personol – sy’n hollol angenrheidiol i lawer o bobl gydag anableddau.
“Fodd bynnag, dylai hyn fod yn gam cyntaf o lawer i wrthdroi’r rhestr hirfaith o doriadau sy’n targedu pobl fregus.
“Mae’r llanast yr aeth y blaid Dorïaidd iddo dros y penwythnos wedi datgelu eu rhaniadau dwfn dros yr UE, a gwêl y rhan fwyaf o bobl hyn yn fwy fel mater o bwy fydd yn dilyn David Cameron fel arweinydd.
“Mae’r hanes truenus hwn yn dangos beth allwn ni ddisgwyl os bydd pobl yn pleidleisio dros y Torïaid yng Nghymru yn etholiad y Cynulliad ar Fai 5. Mwy o anhrefn, mwy o doriadau, a’r rhai sy’n wael eu byd ac yn methu cynnal eu hunain yn gorfod dal pen trymaf baich eu polisïau economaidd byrbwyll.”