Angharad Penrhyn Jones
Angharad Penrhyn Jones sydd yn esbonio pwysigrwydd nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod…
Merched yw asgwrn cefn ein cymdeithas. Pwy sy’n rhedeg banciau bwyd a’r Cylch Meithrin, yn gweithio mewn siopau elusennol ac yn eistedd ar bwyllgorau ysgol?
Merched, yn aml iawn. Ni sydd fwyaf tebygol o ofalu am blant a’r henoed, o wneud gwaith gwirfoddol ac ymgyrchu ar lawr gwlad.
Gyda pholisïau llymder y Llywodraeth Dorïaidd yn bygwth datgymalu ein gwasanaethau cymunedol, mae ein rôl yn bwysicach nag erioed.
Ond mae’r polisïau llymder hyn yn effeithio ar fenywod yn arbennig: rydym yn fwy tebygol na dynion o weithio yn y sector gyhoeddus – sector sydd o dan fygythiad dwys.
Mae llochesi i ferched yn cau eu drysau, am nad oes digon o arian – nac ewyllys gwleidyddol – i’w cadw ar agor.
Mae gwasanaethau cam-drin domestig a thrais rhywiol yn crebachu, er bod dwy ferch yn cael eu llofruddio bob wythnos gan eu partneriaid neu gynbartner.
Cam yn ôl?
Efallai wir fod pethau wedi gwella i ferched dros y degawdau diwethaf. Dyw cymdeithas, ar y cyfan, ddim yn disgwyl i ferched wisgo ffedog o fore gwyn tan nos, na chwaith i gael chwech o blant, golchi dillad â llaw, a bod yn briod i ddyn sy’n ei churo.
Mae rhyddid gan y rhan fwyaf ohonom i fynd allan i weithio a byw yn annibynnol. Mae ysgariad ac erthyliad yn llai o dabŵ erbyn hyn.
Ond credaf ein bod wedi cymryd cam yn ôl hefyd.
Mae mwy o bwysau ar ferched nag erioed i edrych yn ddeniadol, i beidio ag heneiddio, i gael cyrff ifanc hyd yn oed ar ôl cario plant: mewn trefn gyfalafol caiff ein cyrff – neu fersiwn afrealistig ohonynt – eu defnyddio i werthu popeth: ceir, siampŵ, prydau parod.
Caiff merched eu cyflwyno fel gwrthrychau perffaith, di-bersonoliaeth. Does ryfedd bod cymaint ohonom yn dioddef o hunanhyder isel ac aflonyddwch meddwl.
Anweledig
A beth am weledigrwydd merched yn ein hanes? Llynedd, cafwyd ‘Welsh History Month’ yn y Western Mail. Sawl menyw oedd yn eu tudalennau yn ystod y mis hwn?
Er eu bod wedi cyfeirio at saith merch, un fenyw yn unig (Mary Dillwyn) oedd yn ddigon pwysig i fod yn destun erthygl gyfan.
Dro ar ôl tro, mae menywod yn anweledig. Caiff ein cyfraniad i gymdeithas ei anwybyddu a’i danbrisio.
Mae gwaith traddodiadol merched yn waith cyflog isel. Rydym yn derbyn cyflog llai na dynion am wneud yr un gwaith.
Ac ychydig o bŵer gwleidyddol sydd gennym. Yma yng Nghymru dim ond un o’r 22 sy’n arwain ein cynghorau lleol sy’n fenyw, a chwarter o’n cynghorwyr.
Er bod cydbwysedd gwell yn y Senedd, dim ond naw Aelod Seneddol benywaidd sy’n cynrychioli Cymru yn San Steffan.
Problem fyd-eang
A beth am y sefyllfa fyd-eang? Mae’n ddarlun tywyll. O’r 1.3 biliwn o bobl y byd sy’n byw mewn tlodi eithafol, mae 70% yn fenywod.
Maent yn berchen ar lai na 1% o eiddo’r byd. Maent yn gweithio dau draean o oriau gweithio’r byd, ond yn ennill 10% o’r incwm.
Yn y gwledydd tlawd, mae merched yn fwy tebygol na dynion o ddioddef sgil effeithiau newid hinsawdd, yn fwy tebygol o ddioddef o anabledd, ac yn llai tebygol o dderbyn addysg.
Wrth ystyried yr argyfwng ffoaduriaid yn Ewrop, gwelwn fod y canran o ferched sy’n cyrraedd Groeg wedi dyblu ers llynedd. Mae’r merched yma mewn perygl o gael eu cam-drin yn rhywiol a’u masnachu.
Mewn cymunedau ethnig lleiafrifol ar ein stepen ddrws caiff merched eu gorfodi i briodi yn erbyn eu hewyllys, a’u horganau cenhedlu eu hanffurfio (FGM).
Os yw hi’n aml yn anodd bod yn ferch yn y gymdeithas sydd ohoni, rhaid cydnabod ei bod hi’n anoddach fyth bod yn ferch o dras leiafrifol, yn hoyw, yn ddeurywiol neu’n drawsrywiol.
Straeon ysbrydoledig
Felly mae’r rhai sy’n credu bod y frwydr dros gyfartaledd wedi ei hennill yn byw mewn byd ffantasi. Mae ffordd bell i fynd.
A dyma pam ei bod hi mor bwysig ein bod yn nodi Diwrnod Rhyngwladol y Merched.
Ond ni ddylem anobeithio. Braint fawr oedd cael cyfweld menywod arbennig iawn ar gyfer llyfr y bues i’n gweithio arno: Here We Stand: Women Changing the World (Gwasg Honno, 2014).
Mae’r merched yma yn cynnig ysbrydoliaeth mewn cyfnod tywyll yn ein hanes. Maent yn dangos bod newid yn bosib os ydym yn codi llais, ac yn ein hatgoffa nad oes rhaid i ni dderbyn ein tynged.
O ganlyniad i waith yr ymgyrchydd Jasvinder Sanghera, er enghraifft, mae priodas orfodol yn anghyfreithlon bellach – er nad yw’n datrys y broblem yn llwyr, mae’n gam i’r cyfeiriad cywir.
Diolch i Anuradha Vittachi, gorfodwyd Nestlé i fod yn atebol i’r cyhoedd am werthu llefrith parod i ferched mewn gwledydd tlawd, a’u darbwyllo i roi’r gorau i fwydo ar y fron – strategaeth marchnata oedd yn gyfrifol am farwolaethau miloedd ar filoedd o fabanod. Yn dilyn gwaith Anuradha, cafwyd boicot o nwyddau Nestlé.
Roedd disgwyl i Mary Sharkey o’r Alban – o gefndir dosbarth gweithiol traddodiadol – fod yn wraig ufudd i ŵr anodd, ond fe adawodd ei gŵr a grymuso ei hun trwy ymuno â Chymorth i Ferched a helpu menywod bregus eraill.
Ac fe chwythodd Eileen Chubb y chwiban ar gamdriniaeth mewn cartref i’r henoed, gan orfodi BUPA i ateb cwestiynau caled am eu hymarferion, a’n gorfodi ni fel cymdeithas i ystyried y modd yr ydym yn trin y genhedlaeth hŷn (a chofiwn fod merched 40% yn fwy tebygol na dynion o fyw mewn cartrefi i’r henoed).
Mae’n bryd i ni ddathlu’r gwaith hollbwysig mae menywod yn ei wneud, ac ystyried y problemau unigryw rydym yn eu hwynebu.
A rhaid i ni beidio â rhoi’r gorau i gredu bod dyddiau gwell i ddod.
Mae Angharad Penrhyn Jones yn gyd-olygydd Here We Stand: Women Changing the World, casgliad o erthyglau am ymgyrchwyr benywaidd mewn amrywiol feysydd, ac enillydd gwobr Bread & Roses 2015.