Menywod o Brosiect Bywoliaethau Oxfam Cymru
Carys Thomas sydd yn trafod cynhadledd i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod…
Yma yn Oxfam, rydym ni’n rhoi menywod wrth galon popeth rydym ni’n ei wneud. Nid yn unig am ei fod y peth iawn i’w wneud, ond oherwydd mai dyma’r ffordd orau i roi diwedd ar dlodi.
Heddiw rydym ni’n ymuno â dau sefydliad arobryn o Gymru, Chwarae Teg a Merched yn Gwneud Gwahaniaeth, i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, gan gynnal Uwchgynhadledd Menywod Cymru.
Mae’n ddiwrnod fydd yn edrych ar yr heriau mae menywod yn eu hwynebu yng Nghymru, o gael swydd i fod yn rhan o fywyd cyhoeddus.
Byw mewn tlodi
Mae pobl sy’n byw mewn tlodi yn llai tebygol o godi eu llais a mynegi barn yn gyhoeddus.
Felly yn ystod yr Uwchgynhadledd heddiw bydd cyfle i ferched sy’n profi tlodi i siarad yn uniongyrchol gyda phobl sy’n gwneud penderfyniadau ac yn rhoi polisïau ar waith, polisïau sy’n effeithio ar fywyd o ddydd i ddydd yng Nghymru. Fel cael swydd sy’n talu’r biliau.
Menywod sy’n gwneud 80% o swyddi rhan-amser yng Nghymru, ac mae 75% o’r swyddi hyn mewn galwedigaethau manwerthu, gweinyddol, gwasanaethau personol a galwedigaethau eraill sydd fel arfer yn talu cyflogau isel.
Mae hyn oll yn golygu bod merched yng Nghymru yn fwy tebygol o fod yn byw mewn tlodi. Ac nid dyna ddiwedd y stori; mae merched hefyd yn wynebu heriau eraill, megis gofal plant annigonol a diffyg neu brinder gwasanaethau cyhoeddus anaddas.
Unioni’r glorian
Mae Oxfam Cymru’n credu bod angen i Lywodraeth nesaf Cymru weithredu i unioni’r glorian i ferched yng Nghymru, er mwyn sicrhau bod ganddynt fynediad at waith gweddus a’u bod yn derbyn cyflog teg.
Gallwch wylio ein fideo Glaslun i Gymru Oxfam Cymru isod, neu ddarllen ein Glaslun yn llawn yma:
Wrth gwrs, mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod hefyd yn cynnig cyfle i ni weld pa wahaniaeth allwn ni wneud i fywydau menywod ar draws y byd.
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol Menywod eleni mae Oxfam Cymru yn galw ar bobl o bob cwr o Gymru i wneud addewid i helpu menywod a genethod ar draws y byd, boed hynny wrth brynu nwyddau Masnach Deg i gefnogi menywod sy’n ffermio a chynhyrchwyr bwyd, neu godi arian i gefnogi gwaith gwrthdlodi gyda menywod a genethod yn fyd-eang. I ddysgu mwy ewch draw i’n gwefan.
Mae Carys Thomas yn bennaeth ar Oxfam Cymru.