Mae asiantaeth ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig wedi mynegi pryderon dros gytundeb posib a allai olygu y bydd miloedd o ffoaduriaid yn cael eu dychwelyd yn ôl i Dwrci wrth geisio croesi i Ewrop.

Mae’r cytundeb posib yn rhan o drafodaethau rhwng yr Undeb Ewropeaidd (UE) a Thwrci yn sgil yr argyfwng ffoaduriaid ledled y cyfandir.

Dywedodd cyfarwyddwr yr UNHCR yn Ewrop, Vincent Cochetel, fod diarddel pobol o dramor ar raddfa fawr yn mynd yn i groes i gyfraith ryngwladol.

91% yn ffoi rhag rhyfel

Ychwanegodd ei fod “wedi blino o glywed am fewnfudwyr anghyfreithlon” gan fod 91% o’r rhai sy’n cyrraedd Gwlad Groeg o Dwrci yn ffoi o ryfeloedd mewn gwledydd fel Irac, Syria ac Afghanistan.

Nododd fod Twrci wedi gwneud mwy i gynnig lloches i ffoaduriaid na’r UE a’u bod bellach “y wlad sy’n cynnig lloches fwyaf yn y byd.”

Mae 2.75 miliwn o ffoaduriaid bellach yn Nhwrci, y rhan fwyaf o’r wlad gyfagos, Syria.