Tîm Heno a Prynhawn Da yn derbyn y wobr gan Jenny Anne Christine Bishop, o Transforum Manchester a Rona Rees, trefnydd Cymdeithas Beaumont yng Nghymru
Mae dwy raglen gylchgrawn ar S4C wedi ennill gwobr am eu “hagwedd bositif” tuag at y gymuned drawsrywedd yng Nghymru.
Heno a Prynhawn Da sydd wedi cael eu cydnabod gan Wobrau Teledu Trawsrywedd am “eu triniaeth ragorol o westeion, pynciau a newyddion sy’n ymwneud â’r gymuned drawsrywiol.”
Cafodd y wobr ei chyflwyno ar raglen Heno neithiwr, gyda Jenny Anne Christine Bishop, o Transforum Manchester a Rona Rees, trefnydd Cymdeithas Beaumont yng Nghymru yn ei chyflwyno.
“Adlewyrchu bywyd Cymru”
Dywedodd Angharad Mair, un o gyflwynwyr ac uwch-gynhyrchydd y gyfres, fod y ddwy raglen yn ceisio “adlewyrchu amrywiaeth bywyd yng Nghymru” ac yn “rhoi sylw i bynciau sy’n destun siarad.”
“Mae’n dda clywed canmoliaeth am y sylw rydym wedi ei roi i bynciau trawsrywedd ac rwy’n falch iawn o dderbyn y Wobr Teledu Trawsrywedd ar ran yr holl dîm,” meddai.
Cafodd y rhaglen ei gwobrwyo am y sylw rhoddwyd i Ŵyl Ffilmiau Iris, cyfweliad a thrafodaeth am y ffilm ‘The Danish Girl’, sy’n stori am ddynes drawsrywiol.
Cafodd y tîm ei ganmol hefyd am ei sylw i ddigwyddiadau Pride a mudiad Stonewall.
Y llynedd, fe enillodd cyfres materion cyfoes ITV Cymru Y Byd ar Bedwar y wobr am raglen am y gymuned trawsrywedd yng Nghymru.