Gwenfair Vaughan
Bydd darn o nofel newydd Bethan Gwanas, I Botany Bay, yn cael ei pherfformio yn Efrog Newydd heddiw, i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched.
Bydd Gwenfair Vaughan, actores o Fethesda ond sydd bellach yn byw yn Efrog Newydd, ymhlith y dwsinau o artistiaid benywaidd a fydd yn cyflwyno gwaith gan artist o’u mamwlad.
Bydd mwy na 25 o wledydd yn cael eu cynrychioli yn y teyrngedau hyn i gelfyddyd merched ar draws y byd yn y digwyddiad hwn gan Salon Symphony.
Mae Gwenfair Vaughan, fydd yn cynrychioli Cymru, yn adnabyddus am actio llais Mrs Tiggy-Winkle yn y gyfres Peter Rabbit ar gyfer y sianel deledu, Nickelodeon, a hi benderfynodd ddarllen cyfieithiad o’r nofel.
Cefndir y nofel
Mae’r nofel yn gymysgedd o ffuglen a ffaith sy’n dilyn bywyd Ann Lewis, 18, o Ddolgellau yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
“Cefais y syniad ar ôl clywed cyfres ar Radio Cymru yn olrhain hanes y 300 o ferched gafodd eu halltudio o Gymru i Botany Bay rhwng 1787 ac 1852,” meddai’r awdur, Bethan Gwanas.
“Merched ifanc oedden nhw i gyd, llawer yn eu harddegau a’u hugeiniau cynnar; morynion o bentrefi bychain a ffermydd anghysbell ac eraill fu’n cerdded strydoedd tywyll y trefi mawrion fel Abertawe, Merthyr Tudful a Chaerdydd.
“Dim ond dwyn bara, bacwn, bresych, hen sgidiau neu ambell ddilledyn oedd camwedd y rhan fwyaf ohonynt, ond yr un oedd y ddedfryd: isafswm o saith mlynedd ym mhen draw’r byd.”