Aled Morgan Hughes
Aled Morgan Hughes sydd yn edrych ar arwyddocâd siaradwr gwadd annisgwyl yng nghynhadledd y Blaid Lafur yn ddiweddar…
“Behind every great man there’s a great woman”- dyna ddywed y cliché adnabyddus, ac ym maes gwleidyddiaeth a llywodraethu, gweler ‘other half’ arweinwyr yn prysur ddatblygu’n thema o bwys.
Mae’r fath ddiddordeb yn deillio yn bennaf o ben arall yr Iwerydd yn America, gyda chryn dipyn o sylw cyhoeddus a chyfryngol yn cael ei gronni o amgylch gwragedd yr Arlywyddion – o Mary Todd Lincoln yn yr 1860au i statws eiconaidd Jackie Kennedy, Nancy Reagan a Barbara Bush, a bellach Michelle Obama.
Yma ym Mhrydain, cymharol newydd yw’r fath sylw poblogaidd i bartneriaid y Prif Weinidog.
Teg yw awgrymu ei fod wedi amlygu’i hun yn bennaf yn y 1990au gyda dyfodiad ‘Llafur Newydd’, â gwraig Tony, Cherie Blair, yn hawlio dipyn o sylw’r cyfryngau Prydeinig.
Erbyn heddiw, mae’r fath sylw wedi cynyddu fwyfwy gyda Sarah Brown a Samantha Cameron bellach yn datblygu’n gymeriadau adnabyddus ar draws y wlad.
Tir newydd
Gwahanol iawn yw’r stori yng nghyd-destun gwleidyddiaeth Cymru a’r Alban fodd bynnag, a phrin unrhyw sylw’n cael ei bennu i fywydau personol a phartneriaid yr arweinwyr ers dyfod datganoli yn 1999.
Trawiadol tu hwnt felly oedd gweld gwraig Carwyn Jones, Lisa, yn cyflwyno’i gŵr i gynhadledd y Blaid Lafur Gymreig yn Llandudno yn ddiweddar.
Wrth iddi adrodd hanesion eu bywydau personol tu hwnt i’r llwyfan gwleidyddol – o’i goginio i’w gwyliau – torrwyd tir newydd mewn gwleidyddiaeth ddatganoledig Gymreig.
Deinameg yr Arweinwyr?
Yr hyn sydd fwyaf nodedig am gyflwyniad Lisa Jones fodd bynnag, yw’r ffordd y daeth i gydlynu gyda deinameg gymharol gudd etholiad Cynulliad hyd yma – sef y cynnydd nodedig mewn sylw i’r arweinwyr, a’r personoli o ymgyrchoedd y pleidiau gwleidyddol o’u hamgylch.
Nid yn unig o fewn y Blaid Lafur y mae modd gweld y fath bersonoli o ymgyrchoedd.
Ym Mhlaid Cymru mae Leanne Wood yn chwarae rôl hynod actif a chyfryngol ganolog, gyda thystiolaeth o hyn i’w cael mewn erthyglau megis yr un diweddar am ei magwraeth yn y Western Mail.
Mae arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew RT Davies, hefyd yn chwarae’r un dechneg, ac yn amlwg iawn yn ymgyrch ei blaid – “I want to be first minister and I’d lead for all of Wales,” meddai mewn erthygl ddiweddar.
Hawdd yw cyffredinoli, ond yn sicr mae yno ryw flas gormes arlywyddol yn yr awenau eleni.
Gall y pwyslais hwn ar Carwyn Jones fel arweinydd y Blaid Lafur, a Phrif Weinidog Cymru, hefyd ddatblygu’n ddiddorol am ddau brif reswm.
Carwyn v Corbyn
Yn gyntaf oll un o heriau mwyaf y Blaid Lafur Gymreig eleni fydd i bellhau oddi wrth Lafur San Steffan dan arweinyddiaeth Jeremy Corbyn.
Gyda rhai’n ofni’r effaith etholiadol negyddol allai Corbyn ei gael mewn rhai o etholaethau craidd y blaid yng Nghymru, gwelwyd Carwyn Jones yn pwysleisio awtonomi’r Blaid Lafur Gymreig mewn cyfweliad diweddar, gan honni “does dim ots pwy yw’r arweinydd yn Llundain”.
Mewn arolwg diweddar gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru dangoswyd bod Carwyn Jones yn sylweddol fwy poblogaidd yng Nghymru na Corbyn – er yn llai adnabyddus.
Gellir awgrymu felly mai un o’r prif ffyrdd y gall Llafur Cymru ddod i geisio atgyfnerthu’r bwlch yma rhwng Cymru a Corbyn fyddai drwy osod pwyslais ar gymeriad a statws poblogaidd Carwyn Jones – a’i wneud felly yn amlwg iawn yn yr ymgyrch etholiadol.
Cafwyd tystiolaeth o hyn mewn darllediad gwleidyddol diweddar gan y blaid, gyda Carwyn Jones yn ymddangos yn amlwg, ond dim sôn am Corbyn.
Brwydr poblogrwydd
Yn ail, am y tro cyntaf ers 1999 bydd goruchafiaeth poblogrwydd yr arweinydd Llafur hefyd yn cael ei herio.
Mewn etholiadau blaenorol gwelwyd Carwyn Jones, a chynt Rhodri Morgan, yn fwy poblogaidd ac adnabyddus nag arweinwyr y pleidiau eraill.
Ceir enghraifft o hyn yn etholiad 2011 gydag arolwg yn dangos Carwyn yn llawer, llawer fwy adnabyddus a phoblogaidd na’i gyfoedion Cymreig – ac o’i gymharu â’r Alban, hyd yn oed yn fwy poblogaidd nag Alex Salmond!
Mae’r statws hwn dan fygythiad y tro hwn fodd bynnag, yn bennaf oddi wrth arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood, a welodd dwf sylweddol mewn adnabyddiaeth a phoblogrwydd yn dilyn chwistrelliad o gyhoeddusrwydd llynedd drwy ddadleuon teledu’r arweinwyr.
Awgrymodd yr arolwg diweddar fod tua 80% o’r etholwyr bellach yn adnabod Carwyn Jones a Leanne Wood, o’i gymharu â 60% oedd yn adnabod arweinwyr Cymreig y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol.
Gyda monopoli anwadadwy’r Blaid Lafur dros adnabyddiaeth a phoblogrwydd arweinwyr yng Nghymru bellach dan fygythiad, bydd eu hymateb i’r her yma yn ddiddorol tu hwnt.
I gloi felly, fel profwyd gydag ymddangosiad Mrs Jones yng nghynhadledd y Blaid Lafur, teg yw awgrymu bod rôl a phersona arweinwyr y pleidiau Cymreig, a’u rôl yn ymgyrchoedd eu pleidiau i’w weld i ddod yn fwyfwy amlwg yn yr ymgyrch etholiadol eleni.
Ond efallai nad ydyn nhw eto’n atsain brwydrau personol ffyrnig Trump v Cruz a Clinton v Sanders sydd yn cael ei weld yn yr UDA ar hyn o bryd!
Mae Aled Morgan Hughes yn fyfyriwr PhD dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd.