Fe fydd awdurdodau lleol yn derbyn llai o arian y flwyddyn nesaf, mae’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus Leighton Andrews wedi cyhoeddi.
Yn ei ddatganiad ar setliad terfynol ar gyfer Llywodraeth Leol, dywedodd y Gweinidog y byddai cyllid awdurdodau lleol gyda’i gilydd yn cael ei dorri o 1.3% (£54 miliwn) yn 2016-17.
Daw’r cyhoeddiad ar ddiwedd ymgynghoriad a diwrnod ar ôl i Gyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru gael ei chyhoeddi.
Dywedodd Leighton Andrews ei fod yn hyderus bod y setliad yn cynnig “sylfaen gadarn ar gyfer cynllunio ariannol Awdurdodau Lleol ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod”.
Fe gyhoeddodd y byddai refeniw Llywodraeth Leol yn cael ei gosod ar £4.102 biliwn, yr un ffigwr â’r hyn a gafodd ei gyhoeddi yn y Setliad Arfaethedig ar Chwefror 10.
Dywedodd fod “rhaid i awdurdodau ystyried yr holl ffrydiau incwm sydd ar gael iddynt wrth bennu eu cyllidebau ac wrth wneud penderfyniadau am ddarparu gwasanaethau ar gyfer 2016-17”.
Fe fydd yr Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol yn cael ei drafod yn y Senedd ar Fawrth 9.