Ched Evans
Mae ymosodwr Cymru, Ched Evans wedi cael clywed y bydd yn cael dechrau ei apêl yn ddiweddarach y mis yma yn erbyn dedfryd o dreisio.

Bydd y gwrandawiad yn y Llys Apêl yn Llundain yn dechrau ar Fawrth 22.

Cafodd Evans ei garcharu am bum mlynedd yn 2012, ac fe gafodd ei ryddhau’r llynedd ar ôl treulio hanner ei ddedfryd dan glo.

Fis Hydref y llynedd, cafodd yr achos ei drosglwyddo gan y Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol i’r Llys Apêl ar ôl i wybodaeth newydd ddod i law wedi’r achos llys.

Bydd y Llys Apêl yn ystyried a ddylid gwyrdroi’r euogfarn, neu fe allen nhw benderfynu cynnal achos llys o’r newydd.

Mae cyfreithwyr Evans wedi derbyn dogfen 49 tudalen yn nodi’r rhesymau dros roi’r hawl iddo apelio yn erbyn y ddedfryd, ond dydy’r manylion ddim wedi cael eu cyhoeddi.

Dydy Evans ddim wedi gallu ail-afael yn ei yrfa fel pêl-droediwr ers iddo gael ei ryddhau o’r carchar.