Tony Warren ar set Coronation Street yn 1985
Mae’r dyn a sefydlodd yr opera sebon boblogaidd, Coronation Street, Tony Warren, wedi marw’n 79 oed.
Fe oedd yn gyfrifol am sgriptio’r gyfres hirsefydlog, sydd wedi bod ar sgriniau teledu ers mis Rhagfyr 1960.
Cadarnhaodd ITV ei farwolaeth mewn datganiad, yn dilyn neges ar Twitter ar gyfrif Coronation Street yn cyhoeddi’r newyddion.
“Yn drist iawn, cadarnhaodd Coronation Street fod y sylfaenydd a’r sgriptiwr gwych, Tony Warren MBE, wedi huno’n dawel neithiwr (Mawrth 1) wedi’i amgylchynu gan ei ffrindiau cariadus, yn 79 oed, yn dilyn salwch byr,” meddai’r datganiad.