Mae’r darlledwr ITV wedi cyhoeddi cynnydd yn ei elw blynyddol am y chweched flwyddyn yn olynol, er bod gostyngiad wedi bod yn nifer y gwylwyr.

Roedd ei elw cyn treth wedi cynyddu 18% am y flwyddyn i £843 miliwn, gyda chyfanswm ei refeniw yn cynyddu 14% i £3.3 biliwn dros yr un cyfnod.

Serch hynny, mae nifer y gwylwyr wedi gostwng 3%.

Dywedodd y prif weithredwr  Adam Crozier: “Wrth i ni edrych tuag at 2016 a thu hwnt, mae ’na gyfleoedd sylweddol am dwf ar draws y cwmni.”