Louise Mensch
Hefin Jones sydd yn bwrw’i olwg unigryw arferol ar ddigwyddiadau’r wythnos a fu.
Paradwys y plant
Prynodd y banciwr Michael Harte Ynys Budelli am €3miliwn yn 2013, ond mi aeth y creadur yn fethdalwr felly i ocsiwn yr aiff. Ac mae plant yn Yr Eidal wedi dechrau ymgyrch codi arian i’w brynu er mwyn i bawb fedru ymweld, gan ofyn i bob plentyn roi 50c, yn amlwg ddim yn trystio oedolion. Mae Bear Grylls ar Ynys Tudwal yn wfftio adroddiadau fod plant Abersoch ar fin dechrau ymgyrch debyg.
Teyrnas y trenau
Cyfarwyddwr yn Adran Drafnidiaeth Llywodraeth Prydain yw Peter Wilkinson yn ystod y dydd, ond yn ystod y nos mae’n hoff o wylio ffilmiau plismyn America’r saithdegau. Fel y dangosodd mewn cyfarfod cyhoeddus wrth rybuddio’r gyrwyr trenau oll na fydd diben gwrthwynebu ei newidiadau, a meddiannu’r holl ddiwydiant iddo’i hun ar yr un pryd. “They will have to decide if they want to give a good service or get the hell out of my industry,” Clint Eastwood-iodd.
Cyflogau breision
Difyr, am newid, oedd cic ddiweddaraf y Torïaid i’r Gwasanaeth Iechyd a’u ffigyrau am gyflogau’r mandarins. Mae 1,600 o reolwyr byrddau iechyd Cymru, medden nhw, ar gyflog o dros £100,000, gyda Bwrdd Iechyd Bro Morgannwg yn llyncu dogn helaeth o hwnnw wrth lwyddo i dalu hynny i 425 o’u rheolwyr ac uwch swyddogion. Er, debyg mai pwrpas y Torïaid o ryddhau hwn yw creu mwy ohonynt yn y pendraw.
Elusen yn talu
Ac ystadegau newydd yn dangos fod y trydydd sector yn ffynnu hefyd. Mae 1,080 unigolyn ym Mhrydain yn derbyn dros £100,000 o gyflog am redeg elusennau. Mae’n sicr yn werth rhedeg eu hysbysebion o blant trist trwy’r dydd, sy’n siŵr o fod yn llonni diwrnodau’r plant eraill sy’n gwylio.
Methiant màths Mensch
Clod i frenhines Twitter Louise Mensch, a lwyddodd i deipio wrth ragweld ein bod ni Brydeinwyr am adael yr Undeb Ewropeaidd fod ‘thirteen million’ wedi pleidleisio dros UKIP. Wedi i nifer esbonio i’r Tori nad oedd y fath beth wedi digwydd, daeth Louise i egluro mai typo oedd yr 1 o flaen y 3 (er mai pedair miliwn bleidleisiodd UKIP), yn llwyr anghofio mai llythrennau yr oedd wedi eu defnyddio, nid rhifau.
Geiriau gwag Galloway
Ynghyd ag esbonio i’r dorf o blant ysgol mewn dadl deledu cyn refferendwm annibyniaeth Yr Alban y bydden nhw i gyd yn siarad Almaeneg pe na bai hi am Brydain, roedd George Galloway hefyd wedi rhybuddio na fyddai’r Alban yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd. Mae bellach yn ymgyrchu i adael Ewrop, gan lwyddo i weddnewid ei fantra’r noson honno mai llai o ffiniau sydd eu hangen yn y byd, nid mwy.
Ar lan y môr
£1,188 oedd yr arian a ofynnwyd i Gyngor Tref Pwllheli dalu am y fraint o gael y faner las hollbwysig sy’n nodi fod y traeth yn un da a neis y flwyddyn hon. A chyfraniad at y gost oedd hynny. Mae 4,154 traeth wedi ploncio’r faner ddrud anhepgor, proffidiol, i’r rhai sydd ddigon doeth i dalu, felly cofiwch beidio ymweld â’r traethau budr eraill yr haf bach hwn.
Nick yn llwgu
A yw’r BBC yn gwastraffu Nick Robinson fel gohebydd? Bu i’r sianel dorri tir newydd mewn digrifwch o Monty Python i Blackadder. Ac felly Nick, a drydarodd yn llawn y gwreiddioldeb ddangosodd yn Yr Alban ‘slawer: “Standby for reports of menu for EU Summit “dinner”- humble pie, hard cheese, sour grapes…Any other suggestions?”. Pwy a ŵyr, rhyw gelwydd am y Salmond efallai? Defnydd allweddol o ddyfynodau hefyd yn “dinner“.