Mark Drakeford (llun: Flickr Cynulliad)
Mae rhaglen sgrinio i ddod o hyd i gyflwr iechyd sy’n beryglus i ddynion wedi achub bron i 200 o fywydau ers iddo gael ei lansio yng Nghymru yn 2013, yn ôl Yn ôl Llywodraeth Cymru.

Mae’r Rhaglen Sgrinio Ymlediad Aortaidd (aneurism) yn yr Abdomen i ddynion 65 oed yn edrych am chwydd yn yr aorta, a allai arwain at hollt neu rwyg.

Rhwng mis Mai 2013 a mis Mawrth 2014, cafodd 15,000 o ddynion eu sgrinio a chafodd 194 o ymlediadau eu canfod.

Mae risg uchel o farw o’r cyflwr, ond os bydd yn cael ei ddarganfod yn gynnar, mae cyfle i unigolion gael triniaeth a goroesi.

Mae’r cyflwr chwe gwaith yn fwy cyffredin ymhlith dynion nag yw ymhlith merched, ac yn fwy cyffredin wrth i rywun heneiddio.

Os bydd ymlediad bach yn cael ei ganfod, bydd sganiau rheolaidd a monitro yn cael ei gynnig, gan gynnwys meddyginiaeth i arafu’r twf a chyngor am roi’r gorau i ysmygu, ac am ddeiet ac ymarfer corff.

Os bydd yr ymlediad yn fwy o faint, mae angen llawdriniaeth i gael gwared ohono.

Mwy i wneud eto

Dywedodd y Gweinidog Iechyd ei fod yn falch gyda’r canlyniadau ond bod mwy i wneud eto.

“Gwnaeth 74.7% o’r dynion a gafodd eu gwahodd am sgrinio dderbyn y gwahoddiad hwnnw, ac mae hyn yn galonogol iawn,” meddai Mark Drakeford.

“Mae’r rhaglen sgrinio hon yn helpu i atal llawdriniaeth frys ac yn rhoi cymorth i ddynion wella eu hiechyd a’u ffordd o fyw. Er hynny, dydyn ni ddim yn hunanfodlon.

“Yn ddiweddar, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi gweithio mewn partneriaeth ag Undeb Rygbi Cymru i annog dynion i beidio ag anwybyddu eu gwahoddiad am sgrinio.  Mae’n hanfodol bod dynion sy’n gymwys yn cael eu sgrinio ar gyfer ymlediad aortaidd yn yr abdomen.”