Siôn Jones
Mae ymgeisydd y Blaid Lafur ar gyfer Arfon yn etholiadau’r Cynulliad wedi gwrthod honiadau ei fod yn berson “ageist”, yn dilyn cwynion am ei daflen etholiadol.

Yn ôl Siôn Jones, arweinydd Llafur yng Ngwynedd, mae’r awgrym ei fod yn dangos rhagfarn yn erbyn pobol hŷn yn “boncyrs llwyr”.

Ond mae rhai o’r farn bod taflen etholiadol y cynghorydd sir o Fethel, Caernarfon, yn sarhau pobol hŷn ym myd gwleidyddiaeth.

Ar ei daflen mae’r geiriau: ‘Mae Siôn yn ifanc, gyda’r gallu i newid Arfon er budd y bobol.

‘Tydi Siôn ddim yn bwriadu gwneud un term fel Aelod Cynulliad ac ymddeol oherwydd oed, mae Siôn yma i wireddu ei addewidion.’

Yn ôl Siôn Jones nid yw yn “cyfeirio at unrhyw ymgeisydd arall” yn ei daflen, “jest yn dweud fy mod i’n ddigon ifanc i wneud mwy nag un tymor”.

 Plaid Cymru – “nifer yn flin”

Y ffefryn i ennill y sedd yw’r Cynghorydd Siân Gwenllïan o Blaid Cymru. Mae hi’n amddiffyn mwyafrif o dros 5,000 i’r Blaid yn Arfon.

Wrth ymateb i gynnwys y daflen, dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, asiant Siân Gwenllian:

“Mae’n anodd dod i unrhyw gasgliad heblaw mai at ei brif wrthwynebydd yn Arfon, Siân Gwenllian, y mae’r sylwadau wedi eu hanelu.

“Blaenoriaeth Siân wrth gwrs yw gweithio tuag at sicrhau ei hamcanion ar gyfer Arfon, nid ymateb i ymosodiadau personol di-sail.

“Nid yw erioed wedi awgrymu mai ond un tymor y byddai’n wasanaethu, gan bod hynny yn nwylo’r etholwyr.”

“Ond er eglurder, mae hi’n hapus i ddatgan y byddai’n hapus cynrychioli’r etholaeth am 10 mlynedd neu fwy, yn unol â dymuniad pobl Arfon.

“Mae nifer o bobl wedi cysylltu â’r tîm ymgyrchu yn Arfon yn flin iawn gyda sylwadau Siôn Jones, felly rwy’n galw ar y Blaid Lafur i dynnu‘r daflen yn ei hôl, o barch i ferched canol oed”.

“Angen mwy o bobol ifanc”

Dywedodd Siôn Jones wrth golwg360 fod yr awgrym ei fod yn ageist yn “boncyrs llwyr”.

“Be dw i’n deud ar y pamffled ydi, fy mod i’n ddigon ifanc i wneud tymor a mwy nag un tymor arall, dw i ddim yn trio bod yn amharchus i unrhyw ymgeisydd arall sy’n sefyll yn yr etholaeth yn Arfon,” meddai.

“Dw i’n meddwl bod angen mwy o bobol ifanc o fewn gwleidyddiaeth i allu gwireddu cynlluniau a’r agenda rydyn ni’n gosod.”

Ond roedd yn gwrthod honiadau ei fod yn ceisio dweud bod pobol ifanc yn gallu gwneud swydd well ym myd gwleidyddiaeth na phobol hŷn.

“Mae angen y balans yna rhwng pobol ifanc a phobol hŷn sydd efo profiad. Ond yn y pamffled dw i’n rhoi’r opsiwn i bobol Arfon, dw i’n berson reit ifanc, dw i’n bwriadu gwneud mwy nag un tymor ac mae angen rhagor o bobol ifanc o fewn y swyddi yma yng Nghymru.”