Dobsarth ysgol (Llun:PA)
Mae gweithwyr yng Nghymru yn gwneud gwerth mwy na £1biliwn o oriau ychwanegol di-dâl yn y gwaith bob blwyddyn, yn ôl adroddiad gan undeb llafur.
Dywedodd TUC Cymru bod tua 185,000 yng Nghymru wedi gweithio oriau ychwanegol am ddim yn 2015, gan aros yn y gwaith am gyfartaledd o 7.9 awr yr wythnos yn fwy nag yr oedd rhaid.
Athrawon a staff addysg oedd yn dod i’r brig yn yr adroddiad, gyda dros eu hanner yn gweithio 11.9 o oriau ychwanegol yr wythnos.
Roedd rheolwyr ym meysydd ariannol, cynhyrchu, marchnata ac iechyd a gofal hefyd yn gweithio deg awr neu fwy yr wythnos.
‘Annheg ar athrawon’
Wrth ymateb i’r ffigyrau mynnodd Ysgrifennydd Cyffredinol undeb athrawon Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) nad yw’n deg disgwyl i athrawon wneud yr holl waith ychwanegol.
“Mae athrawon yn gweithio oriau ychwanegol sylweddol tu allan i oriau ysgol. Nid yw’r oriau gwaith hyn yn weledol i eraill heblaw am eu teuluoedd,” meddai Elaine Edwards.
“Mae UCAC yn bryderus iawn am yr effaith ar iechyd a morâl athrawon a’r effaith ar eu bywydau personol. Mae problemau llwyth gwaith gormodol yn effeithio ar agwedd athrawon tuag at eu gwaith a’u gyrfa ac yn achosi problemau recriwtio a chadwyn y proffesiwn.
“Mae angen egni a brwdfrydedd i fod yn athro ysbrydoledig. Pwy sydd eisiau athrawon sydd wedi ymlâdd i addysgu eu plant?
“Gyda’r holl ofynion ar athrawon Cymru ar hyn o bryd – a’r holl lefelau o atebolrwydd – mae’r gwaith yn ddi-ben-draw, ac mae’n rhaid newid y sefyllfa er lles athrawon a’u teuluoedd ac er lles plant a phobl ifanc Cymru.”
‘Ewch adref ar amser’
Wrth ymateb i’r ffigyrau mynnodd y TUC fod angen i fwy o staff gymryd digon o amser cinio a gadael gwaith ar amser, ac y dylai cyflogwyr annog hynny.
Dangosodd yr astudiaeth fod gweithwyr sector gyhoeddus hefyd yn fwy tebygol o fod yn gwneud oriau di-dâl.
Dim ond 15.3% o weithwyr yng Nghymru oedd yn dweud eu bod nhw’n gweithio oriau ychwanegol di-dâl, y canran lleiaf ym Mhrydain oni bai am Ogledd Iwerddon a Gogledd Ddwyrain Lloegr.
Ond o’r rheiny oedd yn gwneud, dim ond gweithwyr yn Llundain a Gorllewin Canolbarth Lloegr oedd yn gweithio mwy o oriau ychwanegol na’r Cymry.
Roedd y gwaith ychwanegol hynny oedd yn cael ei wneud gwerth bron i £5,500 y flwyddyn i’r gweithwyr hynny.