Pancadlys Cyngor Gwynedd
Mae mudiadau iaith wedi beirniadu cynghorau sir Gwynedd a Môn am gyflogi cwmni o Loegr i wneud ymchwil ar fewnfudo ac allfudo – heb ystyried y Gymraeg o gwbl.

Roedd yr asesiad yn rhan o’r gwaith o baratoi’r Cynllun Datblygu Lleol ar y cyd ar gyfer y ddwy sir, sy’n dynodi bod angen dros 7,900 o dai ychwanegol dros y 15 mlynedd nesaf yn seiliedig ar ragolygon mewnfudo.

Mae mudiadau gan gynnwys Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Cylch yr Iaith, Dyfodol i’r Iaith a Chanolfan Hanes Uwchgwyrfai fodd bynnag yn honni bod gwneud astudiaeth o fewnfudo ac allfudo heb ystyried yr iaith Gymraeg “yn ffolineb llwyr”.

Dywedodd llefarydd ar ran Uned Polisi Cynllunio cynghorau nad oedd disgwyl i gwmni Edge Analytics o Leeds “gyflawni gwaith ar faes cynllunio iaith a chymdeithaseg iaith”.

Cynghorau’n amddiffyn

Meddai llefarydd Cyngor Gwynedd: “Er mwyn cynorthwyo’r Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd Gwynedd ac Ynys Môn i ystyried opsiynau eraill cafodd cwmni Edge Analytics ei gyflogi i ddarparu cyfres o ragolygon demograffig i Wynedd a Môn.

“Gofynnwyd am ragolygon o’r galw am unedau tai o ystod o senarios, yn cynnwys amcanestyniadau poblogaeth ddiweddaraf Llywodraeth Cymru – sail 2011, rhagolygon cyflogaeth ddiweddaraf i awdurdodau lleol Gwynedd a Môn a pharhad tueddiadau’r gorffennol o adeiladu tai.

“Roedd hwn yn waith penodol i ddarparu rhagolygon demograffig, ac nid oedd disgwyliad fod y cwmni yn cyflawni gwaith ar faes cynllunio iaith a chymdeithaseg iaith.”

‘Cwbl wrthun’

Ond mewn llythyr at y Cynghorydd Dafydd Meurig, deilydd portffolio Cynllunio Cyngor Gwynedd sy’n cadeirio’r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd, dywedodd cynrychiolwyr y mudiadau nad oedd dadl yr Uned yn gwneud synnwyr.

“Ni allwn ond rhyfeddu at hyn oherwydd mae’n gwbl amlwg i bawb fod symudoledd poblogaeth – mewnfudo ac allfudo – yn ffactorau sy’n ymwneud yn uniongyrchol â sefyllfa’r Gymraeg yn ein cymunedau,” meddai’r mudiadau.

“Mae meddwl y gellir trafod mewnfudo ac allfudo mewn perthynas â Gwynedd a Môn heb ymdrin ag effeithiau symudoledd poblogaeth ar y Gymraeg yn gwbl wrthun.

“Sut yn enw rheswm y bu i’r Uned gomisiynu cwmni nad yw’n meddu ar yr arbenigedd i ymchwilio i effeithiau’r gwahanol senarios ar y Gymraeg?”

‘Diffygion’

Ychwanegodd y cynrychiolwyr – Ieuan Wyn (Cylch yr Iaith), Simon Brooks (Dyfodol i’r Iaith), Geraint Jones (Canolfan Hanes Uwchgwyrfai) a Menna Machreth (Cymdeithas yr Iaith Gymraeg) – nad oedden nhw’n teimlo bod eu pryderon nhw wedi cael eu lleddfu.

“Dyma ddiffyg difrifol eto sy’n annilysu’r Cynllun Adnau o safbwynt ieithyddol,” meddai’r mudiadau.

“Eisoes dangoswyd bod yr Asesiad Effaith Ieithyddol a wnaed gan yr Uned yn sylfaenol ddiffygiol, a bod Arolwg Tai ac Iaith Gwynedd ac Ynys Môn yn annibynadwy oherwydd y fethodoleg ddiffygiol.

“Yn awr, dyma ddatgelu nad yw’r Uned yn meddwl bod cysylltiad rhwng sefyllfa’r Gymraeg a mewnfudo ac allfudo, a’i bod yn briodol comisiynu cwmni o’r tu allan i Gymru i wneud gwaith ar ddemograffeg Gwynedd a Môn heb ystyried y Gymraeg o gwbl.

“A oes angen mwy o ffeithiau i ddangos bod tystiolaeth yr Uned yng nghyd-destun y Gymraeg yn annibynadwy?”