Mae dyn yn ei 60au wedi marw ar ôl tân yn ystafell wely ei fflat yn Abersychan ger Pont-y-pŵl.

Cafodd y gwasanaeth tân eu galw toc cyn 7.00 neithiwr i fflat llawr gwaelod ar y stryd fawr yn y dref.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu bod wedi tynnu dyn anymwybodol o’r fflat llawn mwg.

Roedd y gwasanaeth ambiwlans wedi rhoi cymorth cyntaf iddo er mwyn ceisio’i achub, ond fe fu farw’n ddiweddarach.

Mae ymchwiliad yn parhau, ond ar hyn o bryd mae’r awdurdodau’n credu mai damwain oedd y tân.