Sepp Blatter (www.kremlin.ru CCA 4.0)
Fe fydd cymdeithas bêl-droed y byd yn ethol llywydd newydd am y tro cynta’ ers 1998 wrth geisio dod tros y gyfres o sgandalau a arweiniodd at ymddiswyddiad a gwaharddiad Sepp Blatter.

Er fod bwriad i dorri ar rym y swydd, mae’r dewis yn cael ei weld yn un allweddol wrth i’r gymdeithas – FIFA – geisio adfer ei henw da.

Pump sydd yn y ras, gyda’r ceffyl blaen Sheikh Salman o Bahrain yn cystadlu yn erbyn Ysgrifennydd Cyffredinol UEFA Gianni Infantino, y Tywysog Ali bin al Hussein o’r Iorddonen, Tokyo Sexwale o Dde Affrica a’r Ffrancwr Jerome Champagne.

Sgandalau

Fe fu’n rhaid i Sepp Blatter gamu o’r neilltu ar ôl cael gwaharddiad o chwech blynedd oherwydd y sgandal llygredd sydd wedi amgylchynu FIFA dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae’r ffefryn gwreiddiol i’w olynu, cyn-bennaeth pêl-droed Ewrop, Michel Platini, hefyd wedi cael ei wahardd am dderbyn taliad anghyfreithlon gan Sepp Blatter.

Fe fydd gwledydd FIFA hefyd yn pleidleisio ar becyn o ddiwygiadau fel rhan o’r gyngres fydd yn cael ei chynnal ddydd Gwener.

Diwygio posib

Fe fydd angen i 75% o aelodau FIFA bleidleisio o blaid y diwygiadau cyn iddyn nhw allu cael eu gweithredu.

Mae’r pecyn sydd wedi’i gynnig yn cynnwys diddymu’r pwyllgor gweithredol presennol o 24 aelod a sefydlu cyngor newydd 36 aelod yn ei le, gan wahanu’r pŵer gwleidyddol a’r swyddogion rheoli.

Byddai archwiliadau gonestrwydd, terfynau ar y cyfnod y gall rhywun dreulio fel llywydd, a chynlluniau ar gyfer mwy o ferched ar gyngor FIFA hefyd yn cael eu cyflwyno.

Yn ogystal â hynny fe fydd y nifer o bwyllgorau yn lleihau o 26 i naw, tra bod cyflogau’n cael eu datgelu ac ymrwymiad FIFA i hawliau dynol yn cael ei ymgorffori.

Salman v Infantino?

Ar hyn o bryd y ddau sydd yn cael eu hystyried yn fwyaf tebygol o ennill yr etholiad i fod yn llywydd newydd FIFA yw Sheikh Salman.

Mae gan Sheikh Salman gefnogaeth gan gyrff rheoli Asia ac Affrica, er nad yw pob gwlad o’r cyfandiroedd hynny o reidrwydd yn mynd i bleidleisio drosto.

Ond mae wedi wynebu cyhuddiadau y mae’n eu gwadu’n llwyr ei fod yn gysylltiedig ag arteithio protestwyr o blaid democratiaeth yn Bahrain yn 2011.

Gianni Infantino yw’r ceffyl blaen arall, ar ôl i’r gŵr o’r Swistir ddod yn ymgeisydd UEFA yn sgil gwaharddiad Michel Platini.

Mae ganddo gefnogaeth y rhan fwyaf o’r gwledydd Ewropeaidd, ac fe fu ar ymweliad ag Asia yn ddiweddar er mwyn ceisio denu rhagor o bleidleisiau.