Alun Wyn Jones (Chris Jobling CCA 2.0)
Mae un o brif chwaraewyr Cymru, Alun Wyn Jones, wedi mynnu nad oes angen lleihau elfen gorfforol rygbi wrth i dîm Cymru baratoi i herio Ffrainc yn y Chwe Gwlad heno.

Hynny ar ôl pryderon am anafiadau pen i chwaraewyr fel asgellwr Cymru, George North, a sylwadau fod gêm ddiwetha’ Ffrainc wedi bod yn arbennig o galed.

Ond ddylai’r awdurdodau ddim troi’r gêm yn debycach i rygbi cyffwrdd, meddai’r chwaraewr ail reng sy’n nesu at ei ganfed cap.

Problemau teithio

Fe fydd Stadiwm Principality yn llawn unwaith eto ar gyfer y gêm, gyda disgwyl i filoedd yn rhagor o gefnogwyr heidio i Gaerdydd ar gyfer y penwythnos ac mae ofnau am drafferthion teithio.

Mae Trenau Arriva Cymru eisoes wedi rhybuddio cefnogwyr i geisio cyrraedd erbyn dechrau’r prynhawn er mwyn osgoi tagfeydd, tra bod Heddlu De Cymru wedi pwysleisio na ddylai pobol or-yfed yng nghanol y ddinas heno.

Mae’r syniad o gynnal gêm am wyth ar nos Wener wedi creu dadlau – cefnogwyr o’r Gogledd, er enghraifft, yn gorfod colli diwrnod o waith a phrinder trafnidiaeth gyhoeddus pan fydd y dorf yn gadael tua 10.30 y nos.

‘Neb eisiau rygbi cyffwrdd’

Does yr un o’r ddau dîm wedi colli yn y gystadleuaeth eto eleni, ac felly fe fyddai buddugoliaeth i’r naill dîm neu’r llall yn golygu cam mawr arall tuag at herio Lloegr am y bencampwriaeth.

Ond mae hynny wedi cynyddu’r pryder am galedwch y gêm, gyda Chymru a Ffrainc yn dimau mawr ac yn chwarae gêm gorfforol.

Roedd gêm ddiwethaf Ffrainc yn erbyn Iwerddon yn un arbennig o galed, gyda chwestiynau’n cael eu codi wedi hynny a ddylai ambell un o’r Ffrancwyr fod wedi derbyn cosbau ychwanegol.

Ond mynnodd Alun Wyn Jones, fydd yn ennill ei 97 fed cap heno, fod yn rhaid i Gymru dderbyn bod hynny’n rhan o’r gêm.

‘Dim rygbi cyffwrdd’

“Mae’n rhaid i ni fod yn ofalus i beidio â thynnu hynny allan o’r gêm yn ormodol neu fe fydd hi’n fwy o rygbi cyffwrdd,” meddai Alun Wyn Jones.

“Dw i’n siŵr y gwnaiff y dyfarnwyr gadw llygad ar bethau, dyna yw eu gwaith nhw. R’yn ni jyst yno i chwarae’r gêm.

“Mae wastad pethau sydd yn ffasiynol – peidio taclo heb freichiau, dim dwylo ar y llawr yw e ar y funud. Mae yna wastad [droseddau] sydd yn dod i mewn ac allan o’r gêm.

“Mae’n rhaid taro ryc a chael pêl gyflym. Yn amlwg mae ffyrdd o’i wneud e o fewn y rheolau, ond wrth ystyried dyletswydd o ofal tuag at chwaraewyr eraill, dw i jyst yn meddwl fod rhaid bod yn ofalus nad ydyn ni’n dal y gêm yn ôl drwy fynd yn rhy bell i’r cyfeiriad arall.”

‘Ymddwyn yn gall’

Yn y cyfamser, mae’r brifddinas wedi bod yn paratoi unwaith eto ar gyfer y miloedd fydd yn heidio lawr i wylio gornest nos Wener yn y stadiwm neu’r tafarndai.

Fe fydd y rhan fwyaf o strydoedd canol Caerdydd o gwmpas Stadiwm Principality ar gau o 6 o’r gloch y nos ymlaen, tra bydd gorsaf drên Heol-y-Frenhines wedi’i chau ar ddiwedd y gêm gyda theithwyr yn cael eu cyfeirio at system giwio Caerdydd Canolog.

Mae Cyngor Caerdydd eisoes wedi trefnu amryw o safleoedd parcio, neu barcio a theithio, ar gyfer y rheiny fydd yn dod â’u ceir a’u bysus eu hunain i’r gêm.

Mae’r heddlu hefyd wedi galw ar bobol i yfed yn gyfrifol heno, a hynny ar ôl i un o brif swyddogion yr heddlu trafnidiaeth feirniadu ymddygiad cefnogwyr rygbi yng Nghaerdydd yn dilyn y gêm yn erbyn yr Alban bythefnos yn ôl.