Ymddangosiad cyntaf i Djibril Camara ar yr asgell
Mae Ffrainc wedi gwneud pump o newidiadau i’w tîm i herio Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yng Nghaerdydd nos Wener.

Daw Djibril Camara i mewn ar yr asgell ar gyfer ei gêm gyntaf i Les Bleus, a hynny oherwydd anaf i Teddy Thomas.

Mae Maxime Machenaud yn dychwelyd i safle’r mewnwr wrth i Sebastien Bezy ddisgyn i’r fainc.

Daw Rabah Slimani i mewn i’r rheng flaen yn lle’r prop Uini Atonio, mae’r clo Paul Jedrasiak yn cymryd lle Yoann Maestri ac Antoine Burban yn dod i mewn i’r rheng ôl.

Ar y fainc am y tro cyntaf o dan yr hyfforddwr Guy Noves mae’r maswr Francois Trinh-Duc, ac mae’r canolwr Gael Fickou hefyd wedi’i ddewis ymhlith yr eilyddion.

Wrth egluro’r newidiadau, dywedodd Noves ei fod yn awyddus i ail-gyflwyno dull traddodiadol Ffrainc o drafod y bêl yn y chwarae agored.

Mae Cymru a Ffrainc yn ddi-guro yn eu dwy gêm gyntaf yn y gystadleuaeth, ac mae hyfforddwr Cymru, Warren Gatland wedi dweud ei fod yn gobeithio am “ddiwrnodau hapus” i Gymru drwy chwarae rygbi ymosodol.

Dydy Cymru ddim wedi colli yn erbyn Ffrainc ers Cwpan y Byd yn 2011.

Ffrainc: Maxime Medard; Virimi Vakatawa, Maxime Mermoz, Jonathan Danty, Djibril Camara; Jules Plisson, Maxime Machenaud; Jefferson Poirot, Guilhem Guirado (capten), Rabah Slimani, Alexandre Flanquart, Paul Jedrasiak, Antoine Burban, Damien Chouly, Wenceslas Lauret.

Eilyddion: Camille Chat, Uini Atonio, Vincent Pelo, Yoann Maestri, Loann Goujon, Sebastien Bezy, Francois Trinh Duc, Gael Fickou.