Bydd ymwelwyr yn cael cyfle i wylio'r ddwy gêm yn y Chwe Gwlad y prynhawn hwnnw (llun: Cadw)
Fe fydd modd i 500 o bobol wylio gêm rygbi Cymru yn erbyn Lloegr yn y Chwe Gwlad ar 12 Mawrth ar sgrin enfawr yng Nghastell Caerffili.

Mae Cadw wedi cyhoeddi eu bod yn trefnu dangosiad o’r gêm, a fydd yn cynnwys bar llawn a lluniaeth yn ogystal â’r rygbi.

Bydd drysau’r castell yn agos am hanner dydd ar y diwrnod er mwyn dal y gêm rhwng yr Eidal ac Iwerddon am 1.30yp, gyda gweithgareddau chwaraeon i blant a phaentio wynebau am ddim hefyd.

Pris tocynnau i oedolion yw £10 a £5 i blant, a nifer cyfyngedig sydd i gael o’r wefan.

Rhan o ‘Flwyddyn Antur Cymru’

Bydd gornest fawr y prynhawn rhwng Cymru a Lloegr yn dechrau am 4.00yp, gyda’r digwyddiad yng Nghastell Caerffili yn dod i ben ar ôl y chwib olaf.

“Mae’r gêm rhwng Cymru a Lloegr yn un o gemau mwyaf y Chwe Gwlad bob amser, felly doedd hi ond yn iawn ein bod yn dewis safle sy’n addas i’r achlysur,” meddai Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth.

“Rydym ni’n awyddus iawn i’n safleoedd hanesyddol chwarae eu rhan ym Mlwyddyn Antur Cymru, ac edrychwn ymlaen at weld Castell Caerffili’n llawn cefnogwyr brwd.”

Bydd yr iard fewnol, lle fydd y gêm yn cael ei dangos, ar gau i’r cyhoedd ar y diwrnod ond bydd ar agor fel arfer ar y dydd Gwener cynt ac ar y dydd Sul wedyn.