Mae tri newid yn nhîm rygbi dan-20 Cymru fydd yn herio Ffrainc ar Barc Eirias ym Mae Colwyn nos Sadwrn yn y Chwe Gwlad.

Mae Cymru a Ffrainc yn ddiguro yn eu dwy gêm gyntaf yn y gystadleuaeth eleni, ond Ffrainc sydd ar y brig yn sgil gwahaniaeth pwyntiau.

Yn ymddangos yn nhîm Cymru am y tro cyntaf mae asgellwr y Dreigiau, George Gasson, tra bydd Billy McBryde o’r Scarlets yn dechrau am y tro cyntaf yn dilyn ei ymddangosiadau fel eilydd, pan giciodd y pwyntiau buddugol bythefnos yn ôl yn erbyn yr Alban.

Daw clo’r Gweilch, Adam Beard yn ôl i’r tîm wedi iddo gael ei alw nôl i’w ranbarth a cholli’r gêm yn erbyn yr Alban o’r herwydd.

Ond mae Jarrod Evans, Owen Watkin a Dan Jones allan o’r garfan o hyd yn sgil eu hymrwymiad i’w rhanbarthau.

‘Tyngedfennol’

Dywedodd prif hyfforddwr y tîm, Jason Strange, fod canlyniadau Cymru yn y gystadleuaeth hyd yma wedi rhoi hwb i’r garfan.

“Mae eu gwaith caled wedi talu ar ei ganfed o ddod o’r tu ôl i ennill y ddwy gêm.

“Ry’n ni’n edrych ymlaen yn fawr at y gêm dyngedfennol hon gyda’r ddau dîm yn ddiguro hyd yma yn y gystadleuaeth.

“Rydyn ni’n dechrau chwarae’n dda fel tîm, ac mae’n wych gweld cynnydd unigol nifer o’r chwaraewyr o ganlyniad i gael chwarae rygbi ar y lefel yma.

“Ry’n ni bob amser yn cael croeso cynnes ym Mae Colwyn ac rwy’n siŵr y bydd y dorf yn cefnogi’r tîm unwaith eto nos Sadwrn.”

Mae’r gic gyntaf am 7.45yh nos Sadwrn.

Tîm Cymru

Rhun Williams (Rygbi Gogledd Cymru); George Gasson (Y Dreigiau), Joe Thomas (Y Gweilch), Harri Millard (Y Gleision), Keelan Giles (Y Gweilch); Billy McBryde (Y Scarlets), Reuben Morgan-Williams (Y Gweilch); Corey Domachowski (Y Gleision), Dafydd Hughes (Y Scarlets), Dillon Lewis (Gleision Caerdydd), Shane Lewis-Hughes (Y Gleision), Adam Beard (Y Gweilch), Tom Phillips (Y Scarlets, capten), Shaun Evans (Y Scarlets), Harrison Keddie (Y Dreigiau)

Eilyddion: Ifan Phillips (Y Scarlets), Rhys Fawcett (Y Scarlets), Leon Brown (Y Dreigiau), Bryce Morgan (Y Dreigiau), Morgan Sieniawski (Y Gleision), Declan Smith (Y Scarlets), Kieran Williams (Y Gweilch), Joe Gage (Y Gweilch)