Y Bala fydd y pumed clwb yn Uwch Gynghrair Cymru i gael cae synthetig 3G, ar ôl i’r cynllun gael ei gymeradwyo gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru.
Mae’r tîm wedi gorfod gohirio nifer o gemau ar Faes Tegid dros y blynyddoedd diwethaf oherwydd tywydd gwael, a’r gobaith yw y bydd y datblygiad newydd yn mynd i’r afael â’r broblem hynny.
Fe fydd y cae plastig newydd hefyd yn golygu bod modd i’r gymuned leol ddefnyddio’r cyfleusterau ar gyfer digwyddiadau hefyd.
Mae gan bedwar clwb yn Uwch Gynghrair Dafabet eisoes gaeau 3G tebyg – Y Seintiau Newydd, Airbus, Y Drenewydd ac MBi Llandudno.
‘Glaw trwm’
Fe ddaeth y rhan fwyaf o gost y prosiect oddi wrth grant o £350,000 gan y Gymdeithas Bêl-droed, gyda chyfraniad hefyd gan Gyngor Gwynedd ar gyfer ochr gymunedol y prosiect.
Mae disgwyl i’r gwaith gosod ddigwydd yn ystod yr haf, gan olygu y bydd Bala’n medru chwarae ar y cae newydd erbyn dechrau’r tymor nesaf.
“Rydyn ni’n dioddef mwy na’r rhan fwyaf yn Uwch Gynghrair Cymru gyda gemau’n cael eu gohirio bob tymor oherwydd cymaint o law sydd yn disgyn yn yr ardal yma,” meddai prif weithredwr y clwb Nigel Aykroyd.
“Rydyn ni’n gobeithio y bydd hyn yn newid yn y dyfodol, ac na fyddwn ni’n colli gemau teledu proffil uchel Sgorio ar S4C o hyn ymlaen.”