Wrecsam 2–0 Kidderminster                                                         

Roedd dwy gôl hanner cyntaf Kayden Jackson yn ddigon i Wrecsam wrth iddynt drechu Kidderminster ar y Cae Ras nos Fawrth.

Symudodd y Dreigiau i’r pedwerydd safle yn nhabl y Gynghrair Genedlaethol gyda’r fuddugoliaeth.

Manteisiodd Jackson ar gamgymeriad amddiffynnol i rwydo cyntaf Wrecsam wedi ychydig llai na chwarter awr.

Sgoriodd Jackson ei ail yntau ac ail ei dîm yn dilyn gwaith creu Lee Fowler wedi hanner awr ac felly yr arhosodd hi tan yr egwyl.

Y Dreigiau a gafodd y gorau o’r ail hanner hefyd a bu bron i Jackson gwblhau ei hatric, ond cafodd ei atal gan Dean Snedker yn y gôl i’r ymwelwyr.

Roedd y tri phwynt yn ddiogel i’r Cymry serch hynny ac yn ddigon i’w codi i’r safleoedd ail gyfle, maent bellach yn bedwerydd gydag un ar ddeg gêm ar ôl.

.

Wrecsam

Tîm: Taylor, Carrington, Smith, Heslop, Newton, Hudson, Jennings, Evans (Moke 83’), Fowler (York 60’), Beck, Jackson (Briscoe 83’)

Goliau: Jackson 14’, 29’

Cerdyn Melyn: Heslop 75’

.

Kidderminster

Tîm: Snedker, Hodgkiss, Lowe, Maxwell (McQuilkin 46’), Kinsella, Langmead, Williams, Fane, White (Patrick 70’), Gnahoua, Whitfield (Garnett 46’)

Cerdyn Melyn: Fane 42’

.

Torf: 3,899