Middlesbrough 3–1 Caerdydd                                                      

Colli fu hanes Caerdydd yn y Bencampwriaeth nos Fawrth, er iddynt fynd ar y blaen yn erbyn Middlesbrough ar y Riverside.

Rhoddodd Fabio’r Adar Gleision ar y blaen cyn i Connolly unioni pethau gyda gôl i’w rwyd ei hun. A’r tîm cartref aeth â hi wedi’r egwyl gyda gôl yr un i Ramirez a Nugent.

Ugain munud oedd ar y cloc pan roddodd Fabio’r ymwelwyr ar y blaen mewn steil gydag ergyd wych o ugain llath a mwy.

Pum munud yn unig yr arhosodd hi felly serch hynny cyn i Matthew Connolly wyro peniad Gaston Ramirez i’w rwyd ei hun.

Methodd Jordan Rhodes lu o gyfleoedd i roi Middlesbrough ar y blaen wedi hynny wrth iddi aros yn gyfartal tan yr egwyl.

Roedd Rhodes yn ei chanol hi pan yr aeth y tîm cartref ar y blaen yn y diwedd toc wedi’r awr, yn creu’r ail i Ramirez.

Enillodd Ramirez gic o’r motyn wedi hynny ond cafodd cynnig Grant Leadbitter o ddeuddeg llath ei arbed gan David Marshall.

Roedd y fuddugoliaeth yn ddiogel serch hynny saith munud o’r diwedd wedi i’r eilydd, David Nugent, rwydo wedi gwaith da Albert Adomah.

Mae Caerdydd yn llithro un lle i’r wythfed safle yn nhabl y Bencampwriaeth wedi’r canlyniad siomedig.

.

Middlesbrough

Tîm: Konstantopoulos, Nsue, Kalas, Fry, Friend, Forshaw, Leadbitter (de Sart 90’), Adomah, Ramirez (Stuani 84’), Downing, Rhodes (Nugent 75’)

Goliau: Connolly [g.e.h.] 25’, Ramirez 63’, Nugent 83’

.

Caerdydd

Tîm: Marshall, Fabio, Ecuele Manga, Connolly, Malone, Lawrance, O’Keefe (Gunnarsson 82’), Ralls, Wittingham (Ameobi 73’), Pilkington, Immers (Zahore 84’)

Gôl: Fabio 20’

.

Torf: 24,322