Aled Sion Davies, un o'r sêr Paralympaidd fydd yn gobeithio cystadlu yng Ngemau Rio 2016 eleni
Mae’r BBC wedi cyhoeddi y bydd rhaglen gylchgrawn Sport Wales ar BBC Two yn dod i ben eleni, fel rhan o ailstrwythuro i’w gwasanaethau chwaraeon.
Bydd 12 swydd hefyd yn cael eu colli, gyda saith rôl newydd yn cael ei chreu, wrth i’r adran ddweud eu bod yn awyddus i roi mwy o ffocws ar wasanaethau symudol a chyfryngau cymdeithasol.
Fe gadarnhaodd y gorfforaeth y byddai Sport Wales yn dod i ben rywbryd yn y gwanwyn eleni, felly cyn cystadlaethau mawr yr haf gan gynnwys Ewro 2016 a Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Rio.
Ond fe ychwanegodd llefarydd ar ran y BBC y byddai rhaglenni pwrpasol eraill mwy na thebyg yn cael eu comisiynu ar gyfer y digwyddiadau hynny.
‘Digwyddiadau mawr’
Yn ôl BBC Cymru mae defnydd o’u gwasanaethau chwaraeon ar-lein wedi dyblu yn y ddwy flynedd diwethaf, a hynny sydd wedi ysgogi’r newidiadau.
Mynnodd Pennaeth Chwaraeon BBC Cymru Geoff Williams y byddai’r buddsoddiad cyffredinol mewn chwaraeon yn cynyddu fodd bynnag.
“O ystyried maint y buddsoddiad sydd ei angen ar gyfer digwyddiadau byw mawr a darllediadau ar-lein, rydym wedi cymryd y penderfyniad anodd i ddod â Sport Wales i ben ar BBC Two Wales,” esboniodd.
“Er nad oes unrhyw amheuaeth am ansawdd y rhaglen, mae’n glir hefyd ei bod wedi dioddef o’r ffaith bod y gynulleidfa’n newid ac yn defnyddio cynnwys chwaraeon mewn ffyrdd gwahanol.”