Alex Cuthbert nôl yn y tîm (llun: David Davies/PA)
Mae Cymru wedi gwneud tri newid i’w tîm i herio Ffrainc ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad nos Wener.

Fe fydd Alex Cuthbert, Bradley Davies a Dan Lydiate i gyd yn dechrau wrth i dîm Warren Gatland chwilio am eu hail fuddugoliaeth yn y gystadleuaeth.

Mae Jonathan Davies yn ffit i ddechrau yn y canol ond dyw Luke Charteris ddim wedi gwella o anaf i’w ben-glin, gan olygu nad yw’r clo wedi’i gynnwys yn y garfan.

Fe fydd Justin Tipuric yn symud i’r fainc i wneud lle i Lydiate, tra bod Tom James wedi cael ei hepgor yn gyfangwbl.

‘Haeddu cyfle’

Roedd staff hyfforddi Cymru wedi gohirio enwi’r tîm tan ddydd Mercher oherwydd pryder am rai anafiadau, ond dywedodd Warren Gatland bod newyddion da wedi golygu eu bod wedi gallu gwneud y cyhoeddiad yn gynt.

“Rydyn ni wedi gwneud ambell i newid, un roedd yn rhaid gwneud oherwydd pen-glin Luke [Charteris], ond mae Bradley [Davies] yn haeddu dechrau hefyd felly mae’n gyfle da iddo,” meddai prif hyfforddwr Cymru.

“Rydyn ni wedi gwneud dau newid arall, gydag Alex [Cuthbert] a Dan [Lydiate] yn dod i mewn i’r tîm. Mae’r ddau wedi ymarfer yn dda ac fe fyddan nhw’n siwtio’r gêm mae Ffrainc yn debygol o’i chwarae hefyd.

“Fe fydd hi’n benwythnos mawr arall yn y Chwe Gwlad. Mae Ffrainc yn dod i Gaerdydd heb golli eto yn y gystadleuaeth hyd yn hyn, ac yn gwneud yn dda o dan Guy [Noves, eu hyfforddwr newydd].”

Tîm Cymru v Ffrainc:

Liam Williams; Alex Cuthbert, Jonathan Davies, Jamie Roberts, George North; Dan Biggar, Gareth Davies; Rob Evans, Scott Baldwin, Samson Lee; Bradley Davies, Alun Wyn Jones; Dan Lydiate, Sam Warburton (capt), Taulupe Faletau

Eilyddion: Ken Owens, Gethin Jenkins, Tomas Francis, Jake Ball, Justin Tipuric, Lloyd Williams, Rhys Priestland, Gareth Anscombe