Mae’r Gweilch wedi cyhoeddi eu bod nhw wedi arwyddo bachwr y Dreigiau Hugh Gustafson ar gyfer y tymor nesaf.

Fe fydd y chwaraewr 28 oed, sydd yn wreiddiol o Gaerfyrddin, yn arwyddo cytundeb dwy flynedd yn Stadiwm Liberty.

Dywedodd Rheolwr Rygbi Cyffredinol y Gweilch Andrew Millward y byddai gan Gustafson rôl hyfforddi a mentora gyda’r rhanbarth yn ogystal â lle yn y garfan.

Ychwanegodd Gustafson, sydd hefyd yn gallu chwarae fel prop pen rhydd, ei fod yn edrych ymlaen at yr her newydd ar ôl naw tymor gyda’r Dreigiau.

“Rydw i’n gyffrous ac yn nerfus ar yr un pryd,” meddai.

“Dw i wedi bod gyda’r Dreigiau ers fy mod i’n 19 felly mae hon yn her newydd i mi.”