Jonathan Davies heb ymarfer heddiw (llun: David Davies/PA)
Fe fydd staff hyfforddi tîm rygbi Cymru’n aros i weld beth yw sefyllfa anafiadau sawl un o chwaraewyr y garfan wrth iddyn nhw baratoi i wynebu Ffrainc yn y Chwe Gwlad nos Wener.
Mae’r canolwr Cory Allen yn disgwyl cael sgan heddiw ar ôl anaf i’w bigwrn yn ystod gêm y Gleision yn erbyn Leinster yn y Pro12 dros y penwythnos.
Mae sawl un arall o’r garfan hefyd yn cario mân anafiadau fydd yn parhau i gael eu hasesu.
Roedd tîm Cymru i wynebu’r Ffrancwyr i fod i gael ei henwi ddydd Llun, ond mae’r penderfyniad hwnnw bellach wedi cael ei ohirio tan ddydd Mercher.
‘Jon Fox’ heb hyfforddi
Yn ôl hyfforddwr cynorthwyol Cymru, Rob Howley, mae Cory Allen yn wynebu asesiadau pellach i weld beth yw effaith ei anaf.
“Rydyn ni’n gobeithio na fydd cyn waethed â beth roedden ni’n meddwl i ddechrau,” meddai Howley.
Yn ogystal, fe gollodd y canolwr Jonathan Davies gêm gynghrair Clermont Auvergne yn erbyn Castres ddeuddydd yn ôl oherwydd anaf, a doedd e ddim wedi hyfforddi brynhawn ddydd Llun.
Mae’r clo Luke Charteris hefyd yn parhau i weithio gyda staff meddygol er mwyn gwella o anaf i’w ben-glin.
Ond roedd y maswr Rhys Priestland wedi ymarfer rhywfaint ddydd Llun ar ôl dioddef coes gwsg yn chwarae i Gaerfaddon yn uwch gynghrair Aviva wrth iddyn nhw guro Wasps.