Roedd Sam Vokes yn un o sgorwyr y penwythnos (llun: John Walton/PA)
Gyda’r Uwch Gynghrair yn cymryd hoe am wythnos, a Gareth Bale dal ddim nôl o anaf yn La Liga, mae’n sylw ni’r wythnos yma’n troi’n syth ar Gwpan FA Lloegr.

Pumed rownd y gystadleuaeth oedd hi’r wythnos hon, gyda sawl un o’r Cymry yn brwydro yn erbyn ei gilydd wrth iddyn nhw geisio cyrraedd rownd yr wyth olaf gyda’u clybiau.

Llwyddodd Reading i gyrraedd y chweched rownd gyda buddugoliaeth o 3-1 yn erbyn West Brom, gyda Chris Gunter a Hal Robson-Kanu yn chwarae 90 munud yr un i’r tîm cartref a James Chester hefyd yn cael gêm lawn i’r Baggies.

Mae Wayne Hennessey a Joe Ledley hefyd drwyddo gyda Crystal Palace wedi iddyn nhw drechu Spurs, oedd heb Ben Davies, o 1-0.

Roedd hi’n brynhawn i’w anghofio i Adam Henley a Blackburn wrth iddyn nhw golli o 5-1 yn erbyn West Ham, gyda James Collins yn creu gôl yr Hammers a unionodd y sgôr.

Mae Shaun Macdonald a Rhoys Wiggins hefyd allan o’r gwpan gyda Bournemouth ar ôl iddyn nhw golli 2-0 i Everton, gyda Macdonald yn cael awr ar y cae a Wiggins yn aros ar y fainc.

Ac fe gafodd Aaron Ramsey ei orffwys gan Arsenal fodd bynnag wrth iddyn nhw gael gêm ddi-sgôr â Hull sydd yn golygu y bydd yn rhaid i’r ddau dîm chwarae eto.

Y Bencampwriaeth

I’r Bencampwriaeth, ble mae Burnley wedi codi i’r ail safle yn y tabl wedi i Sam Vokes sgorio’r gôl gyntaf o’r smotyn wrth iddyn nhw drechu Rotherham o 2-0.

Roedd hi’n benwythnos da i Gaerdydd hefyd, a enillodd o 4-1 gyda Tom Lawrence yn chwarae gêm lawn yn erbyn Brighton ac Andrew Crofts.

Chwaraeodd Joel Lynch gêm lawn wrth i Huddersfield gadw llechen lân a threchu Wolves o 3-0, gydag Emyr Huws a Dave Edwards yn parhau i fod yn absennol i’w clybiau.

Doedd dim llawer o siâp ar MK Dons wrth iddyn nhw golli o 2-0 gartref yn erbyn Bristol City, gyda Joe Walsh yn cael 90 munud ond Jonny Williams yn aros ar y fainc.

Roedd Jazz Richards ar y fainc unwaith eto i Fulham wrth iddyn nhw ennill o 3-0 yn erbyn Morgan Fox a Charlton, ac roedd Lewis Price hefyd ymysg eilyddion Sheffield Wednesday wrth i Preston eu curo o 1-0.

Yn Uwch Gynghrair yr Alban fe lithrodd Inverness ac Owain Fôn Williams allan o’r chwech uchaf ar ôl colli o 3-0 yn erbyn Celtic.

Yng Nghynghrair un fe rwydodd Steve Morison ddwywaith i Millwall, tra bod Walsall a Tom Bradshaw wedi llithro allan o’r ddau uchaf yn y tabl ar ôl colli i Wigan.

Cafodd Declan John (Chesterfield) a George Williams (Gillingham) hefyd gêm i’w clybiau newydd ar ôl symud yno ar fenthyg am weddill y tymor o Gaerdydd a Fulham.

Seren yr wythnos – Wayne Hennessey. Perfformiad da yn y gôl ac ambell arbediad gwych wrth i Palace drechu Spurs.

Siom yr wythnos – Shaun Macdonald. Heb ddangos llawer i awgrymu ei fod yn haeddu mwy nag ambell gêm gwpan i Bournemouth.