Enillodd Ronnie O’Sullivan saith ffrâm o’r bron wrth iddo drechu Neil Robertson o 9-5 yn rownd derfynol Pencampwriaeth Agored Cymru yng Nghaerdydd nos Sul.
Roedd y Sais ar ei hôl hi o 5-2 ar yr egwyl, ond fe wnaeth y rhod droi ac fe ddaeth y cyfan i ben wrth i ‘Rocket’ sgorio 141 yn y ffrâm olaf.
Ond roedd O’Sullivan yn barod i ganmol yr Awstraliad Robertson.
“Neil yw chwaraewr gorau’r tymor – mae ei gêm wedi gwella cymaint.
“Roedd e’n chwarae i ryw 75 neu 80 y cant [o’i allu] heddiw a fe, yn sicr, yw’r chwaraewr gorau yn y byd ar hyn o bryd.
“Rwy ond yn falch ’mod i wedi gallu cystadlu gyda fe. Fe gafodd Neil gyfleoedd ond rwy’n falch ’mod i wedi llwyddo i ddal ati.”
Mae disgwyl i O’Sullivan orffwys tan ddechrau Pencampwriaeth y Byd yn y Crucible yn Sheffield ym mis Ebrill.
Ychwanegodd: “Rwy wedi ymlâdd yn llwyr – mae angen mis arna i i orffwys ac ymadfer a cheisio rhoi cynnig go dda arni yn Sheffield oherwydd mai dyna’r un mae pawb am ei ennill.”