Collodd Devils Caerdydd ar eu tomen eu hunain nos Sul, wrth i’r Sheffield Steelers eu curo o 5-4 yn eu hail gêm yn erbyn ei gilydd dros y penwythnos.

Sgoriodd y Cymry wedi pedair munud wrth i Leigh Salters rwydo oddi ar bas gan Joey Martin.

Ond yr ymwelwyr oedd ar y blaen gyda dwy gôl hwyr yn y cyfnod cyntaf – y gyntaf i Tyler Mosienko a sgoriodd hat-tric nos Sadwrn, a’r ail i Conny Stromberg yn eiliadau ola’r cyfnod.

Roedd hi’n gyfartal wedi pedair munud o’r ail gyfnod wrth i Andrew Lord ddarganfod Zach Hervato, a hwnnw’n ergydio i gefn y rhwyd.

Sgoriodd y Devils gôl anghyfreithlon yn fuan wedyn, ac roedd y momentwm gyda’r ymwelwyr wrth i’r Cymry gael eu cosbi.

Aeth y Steelers ar y blaen wedi 36 eiliad o’r cyfnod olaf wrth i Stromberg rwydo am yr ail waith.

Ond o fewn ychydig dros funud, roedd y Devils yn gyfartal 3-3 diolch i Josh Batch.

Daeth pedwaredd gôl fuddugol y Steelers funud yn ddiweddarach wrth i Mathieu Roy rwydo oddi ar ergyd gan Rod Sarich.

Ond roedd y Cymry’n gyfartal toc, diolch i Tomas Kurka wedi 45 o funudau.

Ond sicrhaodd y Saeson y fuddugoliaeth drwy law Tyler Mosienko a rwydodd am yr ail waith.

Bydd sylw’r Devils yn troi at y gwpan nos Fawrth wrth iddyn nhw wynebu Belfast Giants. Y Devils sydd ar y blaen o 5-3 wedi’r cymal cyntaf.