Gan Matt Barbet y clywais am ymddiswyddiad y Prif Weinidog ar Orffennaf 16. Roedd stribed ‘newydd dorri’ ar waelod sgrin Sky News yn cyhoeddi bod pedwar aelod o’i Gabinet wedi ildio’r awenau yn gynharach y bore hwnnw, gan roi mwy fyth o bwysau ar arweinyddiaeth drwblus Gething. Dyna lle fues i wedyn, ar fore fy mhen-blwydd, yn neidio o Sky i BBC News lle’r oedd Lukwesa Burak hefyd yn cyhoeddi’r diweddaraf o Gaerdydd. Enghraifft brin o stori am Gymru yn hawlio’r sylw Prydeinig. A lle’r oedd cyfryngau Cymru? Roedd S4C ym myd cartwnau plant. Draw ar Radio Wales, roedd y comedïwr Robin Morgan yn cadw sedd Wynne Evans yn gynnes, gan addo “laugh your way to lunchtime!” wrth chwarae Beyoncé a gofyn i’r gwrandawyr Whatsapp-io eu straeon cwrdd â s’lebs. Roedd Bore Cothi yn siarad â seren y West End o’r Bala (obsesiwn cyffredin y cyfryngau Cymraeg) a chwcan yn yr ardd, rhwng ambell i gân. A chwerthin wrth gwrs. Lot fowr o chwerthin.
Wrth i’r diwrnod fynd rhagddo, cafodd llanast Llywodraeth Cymru ei ddisodli’n raddol gan ymddiswyddiad rhyw reolwr pêl-droed, gan barhau â’r 58 years of hurt i’r Rheiny Drws Nesa. Rhaid dibynnu ar fwletinau bob awr Radio Cymru felly. Sy’n gwneud i rywun amau pwrpas yr ail orsaf radio Gymraeg. Pam ar y ddaear wnaeth Daf Du neu Rhuanedd Richards, Cyfarwyddwr BBC Cymru a pholitico’r Gorfforaeth rhwng 1997 a 2001, ddim symud rhaglenni Shân Cothi ac Ifan Evans i “serfio tiwns” ar Radio Cymru 2? Byddai hynny wedi rhyddhau’r brif orsaf i drafod daeargryn gwleidyddol y Bae wedyn. Wedi’r cwbl, roedd digonedd o newyddiadurwyr ‘tebol ar waith yn HQ Sgwâr Canolog os nad ar risiau’r Senedd y diwrnod hwnnw, i lenwi oriau o ddarlledu byw.
Ond na. Gwell caneuon Iwcs a 3 Tenor Cymru na gwleidyddiaeth gwlad.
Rhwystredig ydi absenoldeb Y Byd yn ei Le ar adegau tyngedfennol fel hyn hefyd. Mae partneriaeth Catrin Haf Jones a’r Athro Richard Wyn Jones wedi rhoi ail-wynt i seiat wleidyddol S4C ers i Guto Harri adael am borfeydd mwy ceidwadol. Roedd y gyfres fer pedair pennod i gyd-fynd ag etholiad cyffredinol yr haf yn gwbl hanfodol, ac atebion pigog y darpar Ysgrifennydd Gwladol Jo Stevens, i gwestiynu taer Catrin Haf, yn awgrymu’n gryf na fydd datganoli mawr i Gaerdydd. Ond chawson ni ddim rhifyn arbennig adeg ymddiswyddiad Gething na dyrchafiad sydyn Barwnes Trelái.
Yn wahanol iawn i bodlediad Gwleidydda* Radio Cymru, sy’n llwyddo i ryddhau pennod newydd gyda phob tro annisgwyl arall o Fae Caerdydd. Ac wrth i’r gwestai Carwyn Jones haeru bod “gobeth o symud mla’n” ym mhenodiad Eluned Morgan, aeth RWJ – Cyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru – ati i chwalu hynny’n rhacs trwy ddweud bod Jeremy Miles wedi “ei ddanfon allan i’r diffeithwch” gan “gefnogwyr ultras Vaughan Gething” yn y ras arweinyddol-na-fu’n-ras y tro hwn. O! am gamera i weld gwep y cyn-Brif Weinidog, fel sy’n digwydd ar fersiwn Radio Wales. Mae podlediad Walescast gyda Felicity Evans a James Williams ar ei ennill o fod ar BBC Sounds yn gyntaf ac wedyn ar deledu BBC One Wales yn hwyr ar nosweithiau Iau.
Mi fydd Eluned Morgan yn wynebu cyhuddiad o “goroni nid cystadleuaeth”, yn union fel arweinydd gobeithiol America. Ac wrth neilltuo rhifyn o The Today Podcast Radio 4 i Kamala Harris, meddai Amol Rajan:
“She’s heading into the Senate expecting simply to serve…she’s untested, she’s been catapulted to the top of the ticket with everyone else in the party stepping aside… but that is enough about the new leader of Welsh Labour.”
*Bydd Vaughan Roderick a Richard Wyn Jones yn recordio pennod o Gwleidydda yn fyw o faes yr Eisteddfod am 1 o’r gloch brynhawn Mercher nesaf, Awst 7, ym Mhabell y Cymdeithasau.