Dyma gyfres sy’n cael cip ar gartrefi rhai o wynebau adnabyddus Cymru. Nia Stephens, warden Ynys Dewi ger Tyddewi, sy’n agor y drws i’w chartref yr wythnos hon. Mae Nia yn wreiddiol o Aberteifi, ac wedi bod yn byw ar yr ynys ers 2021…
Dw i’n byw efo dau gi defaid mewn tŷ fferm ar Ynys Dewi. Dw i wedi byw a gweithio yma ers pedair blynedd bellach. Mae’r ynys yn gorwedd tua milltir oddi ar arfordir Sir Benfro yn agos i ddinas Tŷ Ddewi. Gwarchodfa natur yw Ynys Dewi sydd yn berchen i’r RSPB. Rydw i’n gweithio yma fel Warden ac mae’r swydd yn golygu byw ar yr ynys rhwng mis Mawrth a mis Tachwedd bob blwyddyn.
Cefais fy magu ar fferm tu allan i Aberteifi a dw i erioed wedi caru natur, y môr a’r awyr agored. Ers graddio o brifysgol Aberystwyth dw i wedi gweithio ar nifer o wahanol warchodfeydd a phrosiectau cadwraeth ond mae ’na rywbeth arbennig o hudol am ynysoedd a’u bywyd gwyllt. Ar ôl ymweld ag Ynys Dewi nol yn 2010 roeddwn i wedi penderfynu mai dyma le roeddwn i eisiau bod. Cymerodd amser hir a llawer o waith ond, yn y pen draw, daeth y swydd i fyny yn 2021.
Fy hoff ran o’r tŷ yw’r sedd ar y silff ffenest yn fy ystafell wely. Mae’r ffenest yn edrych allan dros yr harbwr a dros Sownd Ynys Dewi, sef y darn o ddŵr rhwng yr ynys a’r tir mawr. Dw i’n eistedd yma bob bore i wirio amodau’r môr cyn siarad â’r hwylwyr i benderfynu os ydy hi’n iawn i ddod draw gydag ymwelwyr. Mae’r olygfa’n wahanol bob dydd – un diwrnod bydd yr haul yn codi dros fôr gwydrog, a diwrnod arall bydd tonnau gwyllt yn dod dros wal yr harbwr. Dw i wrth fy modd yn eistedd yn gwylio’r llanw a’r newid yn y tywydd, a’r cychod yn mynd heibio. Mae o’n fan da i weld pwy sy’n dod draw i ymweld â ni hefyd!
Mae ‘na hen fap mawr o’r ynys ar y wal yn y gegin. Un o fy hoff bethau am Ynys Dewi yw bod yr enwau lleoedd Cymraeg wedi eu cadw, er bod yr ynys wedi newid perchnogaeth nifer o weithiau dros y blynyddoedd. Fy hoff enw ydy Pwll Bendro sef clogwyn uchel dros ogof lle mae adar y môr yn nythu – mae’n ddisgrifiadol iawn!
Mae’r tŷ yma yn llawn pethe diddorol sydd wedi eu casglu gan bobl dros y blynyddoedd, mae olwyn lywio o gwch pysgota wnaeth suddo ger yr ynys ar y wal, a gwahanol gregyn, broc mor ac esgyrn sydd wedi golchi i fyny ar draethau’r ynys.
Er fy mod ar ben fy hun bob nos efo’r ddau gi, mae’r tŷ fferm ar Ynys Dewi yn lle prysur yn ystod y dydd. Mae swyddfa’r ynys yn y tŷ ac mae’r siop fach drws nesa, felly mae ’na bobl yn mynd a dod trwy’r dydd pan mae’r ynys ar agor. Mae’n bwysig iawn i mi fod pawb yn cael croeso cynnes a bod y lle yn llawn hwyl. Mae ‘na un aelod o staff arall yma sy’n byw mewn byngalo tua milltir i fwrdd. Rydyn ni’n dod ymlaen yn dda, ac yn nofio bob dydd yn yr harbwr ar ôl i’r ymwelwyr adael ac yn coginio gyda’n gilydd. Un o’n hoff bethau ydy pobi cacennau gan ddefnyddio wyau o’r pedwar iâr sydd gynnon ni.
Mae’r ynys ar agor i’r cyhoedd o ddechrau mis Ebrill tan ddiwedd mis Hydref. Mae ar agor o ddydd Sadwrn i ddydd Iau (ar gau ar ddydd Gwener). Mae dau gwch yn mynd draw i Ynys Dewi bob dydd am 10yb neu 12 o’r gloch ac mae’r cwch yn gadael am 4 o’r gloch. Mae’n bosib bwcio i ddod draw drwy’r cwmni Thousand Islands.