Gydag Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf bellach wedi cyrraedd Pontypridd, mae un o drigolion yr ardal yn lansio ail gyfrol o straeon yr wythnos hon am fyw yn y Rhondda.

Arlunydd, cyflwynydd, bardd ac awdur ydy Siôn Tomos Owen, gafodd ei fagu yn y Rhondda. Cafodd ei gyfrol gyntaf am yr ardal Y Fawr a’r Fach: Straeon o’r Rhondda, sy’n llawn straeon am ei blentyndod a’i arddegau, ei chyhoeddi yn 2018.

Mae Y Fawr a’r Fach 2: Mwy o Straeon o’r Rhondda yn dweud ei hanes yn tyfu’n ddyn a dod yn dad, ac am yr ardal mae’n ei charu – y Rhondda.

“Pan sgwennes i’r gyfrol gyntaf nôl yn 2018 ges i lawer o hwyl ond ges i drafferth yn dewis pa storïau i’w cynnwys, ac o’n i’n gwybod byse rhaid i mi sgwennu ail lyfr rhywbryd! Ac ar ôl magu fy mhlant yn y cwm hefyd, mae gen i hyd yn oed mwy o straeon doniol i’w rhannu,” meddai Siôn Tomos Owen, sy’n wyneb cyfarwydd i wylwyr S4C, diolch i Pobol y Rhondda, cyfres oedd yn mynd ar daith trwy Gwm Rhondda.

“Mae’r ymateb i’r gyfrol gyntaf wedi bod yn wych a dw i wedi siarad a gwneud ffrindiau gyda chymaint o ddysgwyr Cymraeg sydd wedi darllen fy llyfr – pobol o Brighton i Lithwania, Gwlad Pwyl a hyd yn oed Santa Barbara yng Nghaliffornia! Ac mae pawb yn dweud eu bod nhw’n mwynhau’r ffaith bod yna gartwnau yn cyd-fynd gyda’r straeon hefyd, sy’n gwneud i fi wenu.”

‘Brwdfrydedd dysgwyr i siarad Cymraeg yn anhygoel!’

Mae lluniau du a gwyn Siôn Tomos Owen yn cyd-fynd â phob un o’r 18 stori fer. Mae geirfa ar bob tudalen, a rhestr eirfa yng nghefn y llyfr.

Mae’r llyfr yn addas ar gyfer dysgwyr lefel Sylfaen ac yn rhan o’r gyfres Amdani, sy’n cyhoeddi llyfrau darllen yn arbennig ar gyfer oedolion sy’n dysgu Cymraeg.

“Un o fy hoff bethau am deithio yw cwrdd â phobl newydd ac mae’r niferoedd dw i wedi cwrdd â nhw yn ddiweddar sy’n dysgu Cymraeg mor galonogol. Yn ddiweddar, mae teulu ffrind fy merch wedi newid iaith y tŷ i’r Gymraeg ar ôl dysgu’r iaith – rwy’n sgwrsio gyda’r fam ar y ffordd wrth fynd â fy merch i’r ysgol bob dydd. Mae’r profiad yn gwneud i mi eisiau ysgrifennu mwy o lyfrau i ddysgwyr oherwydd y cynnydd yn nifer y bobl sy’n dysgu ac mae brwdfrydedd dysgwyr i siarad Cymraeg yn anhygoel!” meddai. 

Bydd straeon Y Fawr a’r Fach 2: Mwy o Straeon o’r Rhondda yn cael eu darllen bob diwrnod ar Faes D yn yr Eisteddfod Genedlaethol am 2 o’r gloch.

Mae llyfr ar gael nawr (£6.99, Y Lolfa).