Mae angen mwy o fabwysiadwyr sy’n siarad Cymraeg, medd mabwysiadwyr a Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru.
Ar hyn o bryd, mae dros 300 o blant yn aros i gael eu mabwysiadu yng Nghymru, gyda grwpiau o frodyr a chwiorydd a phlant ag anghenion cymhleth yn aml yn aros hiraf.
Bydd criw o fabwysiadwyr Cymraeg eu hiaith yn siarad ym mhabell y Cymdeithasau yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf fory (Awst 3), yn y gobaith o annog mwy o siaradwyr Cymraeg i ystyried mabwysiadu.
Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru sy’n trefnu’r digwyddiad, a’r cyflwynydd a’r actor Luke Davies, fydd yn ei gynnal.
Mae’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn galw ar ddarpar fabwysiadwyr Cymraeg eu hiaith i gysylltu fel y gall plant, lle bo’n briodol, gael y cyfle i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg wrth iddyn nhw dyfu i fyny.
‘Pwysig i ni allu magu’n ddwyieithog’
Un o’r siaradwyr fydd Guto, sydd wedi mabwysiadu gyda’i bartner, a chyn y digwyddiad dywed ei hi’n bwysig iddyn nhw, fel aelwyd Gymraeg, fod eu plentyn yn dysgu’r iaith.
“Roedd yn bwysig i ni ein bod yn gallu magu ein plentyn yn ddwyieithog,” meddai Guto.
“Roedden ni eisiau mabwysiadu plentyn ychydig yn iau gan nad oedden ni eisiau i’r plentyn fod wedi dechrau yn yr ysgol ac yna gael ei daflu i’r cartref heb ddeall Cymraeg.
“Pan gawson ni ein paru gyda’n plentyn, roedden ni’n gallu cyfarfod â’r rhieni geni – oedd yn eithaf emosiynol, ond fe wnaethon ni ddysgu llawer.
“Gwnaethon nhw rannu pethau fel y gerddoriaeth y bydden nhw’n gwrando arni tra roedd y plentyn ym mol y fam eni. Mae’n rhywbeth y bydden i wir yn ei argymell, os yw’n bosibl.”
‘Chwalu mythau’
Mewn ymgais i annog mwy o siaradwyr Cymraeg i fabwysiadu, mae Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru wedi creu cyfres o fideos dwyieithog yn egluro’r broses, gan drin â chamsyniadau a therminoleg mabwysiadu yn Gymraeg.
Dywed Hedd, sydd wedi mabwysiadu plant ag anghenion dysgu ychwanegol ac a fydd yn siarad ar y panel fory, bod yna lawer o fythau am fabwysiadu angen eu chwalu.
“Nid yw’n wir bod plant ag anghenion arbennig yn fwy o waith, mae’n waith gwahanol,” meddai Hedd.
“Roedd yna lawer iawn o gefnogaeth pan oeddem yn mabwysiadu. Roedd yr ysgol a’r gweithwyr cymdeithasol yn anhygoel.
“Mae yna lawer o stigma, gyda phobol yn poeni am anghenion arbennig ond dydyn nhw ddim yn wahanol i blant eraill. Mae plant i gyd yn unigryw.”
“Gwych” gweld grŵp cymorth Cymraeg
Dywed Suzanne Griffiths, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru, ei bod hi wedi bod yn “wych” gweld grŵp cymorth Cymraeg yn datblygu – grŵp sy’n cynnig cymorth ychwanegol i fabwysiadwyr ledled y wlad.
“Rydym yn ddiolchgar i’r teuluoedd sydd wedi helpu i godi ymwybyddiaeth a herio mythau ynghylch mabwysiadu,” meddai, gan annog unrhyw un sydd eisiau rhagor o wybodaeth neu sgwrs i gysylltu â’u gwasanaethau mabwysiadu lleol.
“Mae ein gwasanaethau wedi ymrwymo i gefnogi teuluoedd – gan gynnig hyfforddiant a chefnogaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg, ar bob cam o’u taith.”
Bydd y sgwrs yn cael ei chynnal ym Mhabell y Cymdeithasau ar y Maes ym Mharc Ynysangharad ym Mhontypridd fory, (dydd Sadwrn, Awst 3) am 2 o’r gloch.