Edwina Hart - yn galon i gyd?
Hefin Jones sy’n cymryd ei gip unigryw arferol ar ddigwyddiadau’r wythnos a fu…
Bys mewn sawl pei
Gyda’n llywodraeth yn gwerthu tir Cymru ar y tsiêp er mwyn i filiwnydd elwa ymhellach, y cwestiwn jacpot ydi: a oedd pobl y Gronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio yn deall ai peidio mai bargeinion oedd y tir? A’r manylyn mwyaf blasus oedd y ffaith fod y cwmni aml-dalentog Lambert, Smith & Hampton yn cynghori South Wales Land Developments, cwmni Sir Stanley Morgan yn Guernsey, yn ogystal â bod yn bartner yn y Gronfa BCmA ar yr union un pryd ac ar yr union un busnes.
Trafferthion yn dyblu
Ac i goroni wythnos dda i gyfrif banc Cymru Fach daeth i’r fei ddiwrnod yn unig wedyn fod y Llywodraeth wedi talu ddwywaith mwy na’i werth am Faes Awyr Caerdydd. Wel, rhaid speciwleiddio i aciwmiwleiddio, er ei brynu oddi wrth gwmni oedd yn methu â gwneud elw, felly hei lwc i Abertis, y cwmni o Sbaen, am hawlio pris mor deilwng.
Tata, hwyl fawr
“People are talking about taking a stake in Tata,” medd Edwina Hart wrth Y Byd ar Bedwar. “Now can we get real”, brym-brymiodd yn chwifio dau gar bach ym mhob llaw, “Tata is a billion pound company, you just don’t take a stake in a company like that” wfftiodd, wrth symud ei cheir ar ei model tegan o’i ffordd osgoi £2biliwn.
Chwifio’r faner
‘Dirwy y cewch os anharddwch chi faner ein cenedl ar y drwydded newydd’ bygythiodd y DVLA. £20 meddent. Ac wedyn mi wnawn nhw yrru un arall i chi, mor allweddol yw’r faner arno.
Cymru v Lloegr
A yw Dai Cam wedi cymryd cam gwag wrth wthio’r ddeddf sy’n gwahardd undebau rhag streicio mewn undod? Onid yw nifer o sectorau gweithluoedd yr undebau wedi eu datganoli? Dyna farn y Cynulliad, a bleidleisiodd i’w wrthod, a’u cyfreithwyr beth bynnag. Ond does ots gan Dai ac mi welwn Cymru v Lloegr yn yr uchel-lys yn ogystal ag ar y caeau chwaraeon.
TTIPyn o ddirgelwch
Gwrthod ateb wnaeth San Steffan i gais rhyddid gwybodaeth ar ba elfennau o’r Gwasanaeth Iechyd y gallai cwmnïau preifat fynd â’r llywodraeth i gyfraith dan gynllun y TTIP. Gwrthododd yr Ysgrifennydd Busnes Sajid Javid ar y sail y gallai ei ddatgelu ‘atal gweision sifil rhag ceisio cyngor digonol oddi wrth gyfreithwyr’. Sy’n glir fel baw gafr. Ond mae Guto Bebb, os nad neb arall, yn mynnu nad yw’r Gwasanaeth Iechyd mewn unrhyw berygl oddi wrth y ddêl. Felly pam y cyfrinachedd, Duw a ŵyr, canys mae Guto’n gwybod. Efallai y bydd Guto’n fodlon rhannu…
Ffynnu o Lundain
Niferus yw’n gwleidyddion sy’n cyffroi am y Pwerdy Gogleddol fydd hefyd yn ymgyfoethogi gogledd Cymru’n ddi-ben-draw wrth i’r arian dasgu ar hyd y glannau i’r gorllewin. Mae gan y megaprosiect swyddfa yn Sheffield, ond synnwyr economaidd yw ei gau a chynnig i’w 240(!) o staff y cânt symud i Lundain lle aiff y megaprosiect ymlaen, heb os, o nerth i nerth.
Gwersi caled
Bu trwmpedu mawr am y cynllun i symud milwyr o faes y gad i’r ystafell ddosbarth i ddarparu arwyr parod … sori, ‘rôl fodelau cryf’ … i’r plant eu hedmygu. Roedd gan gynllun Troops to Teachers darged anuchelgeisiol o 180 i’w gyrraedd, felly siom i ddisgyblaeth wrth i gyfanswm o 32 lwyddo i orffen y cwrs. Dros Brydain.
Oes gafr eto
Ond gwell llwyddiant mewn recriwtio milwrol o fath arall, a reit mewn pryd i’r Chwe Gwlad diolch byth. “When the previous regimental goat dies“, esboniodd y Goat Major Matthew Owen, “we have to send a letter to Her Highness the Queen and request to recruit a new goat. The Queen will reply and permission is granted. We then go and look for a suitable goat”. Nid yw’n glir eto os llwyddodd Ffiwsilwr Llywelyn, canys dyna enw’r afr bellach, i gyrraedd yr uchelfannau er iddo dderbyn addysg Gymraeg.
Trici sybtaitls
O Lucy Owen, pwy feddylia y gallai dy bendroni smalio achosi cymaint o gythrwfl. Wedi llwyddiant y Western Mail i glodfori Jamie Roberts ar fod yn ddoctor ‘despite’ iddo dderbyn addysg Gymraeg, daeth hi’n amser y rhaglen, lle llwyddodd BBC i is-deitlo’r frawdddeg ‘They converse in a foreign language’ wrth i’r Gymraeg gael ei chlywed yn hytrach nag iaith y gwylwyr.
Dewis dethol
Wrth i’r enw newydd hynod boblogaidd ar ein stadiwm genedlaethol hongian fry daeth hi’n amser ffarwelio â’r Mileniwm, a rhestr gan WalesOnline a’r Western Mail o’r 16 moment gorau yn ei hanes. Ynddo mae Craig Bellamy yn chwarae i dîm Olympaidd Prydain. Wedi ei anwybyddu mae Craig Bellamy a phawb arall yn chwarae i Gymru pan drechwyd yr Eidal 2-1 ar frig grŵp rhagbrofol Ewro 2004.
‘They erect a sign in a foreign language…’
Ac mewn erthygl i hysbysebu, sori, groesawu’r enw newydd gwelir llun o’r arwydd mawr a’r geiriau Stadiwm a Stadium fel y disgwyl, ond gyda brawddeg oddi tan i esbonio’r W gwirion yna; “The new bilingual branding spells out Stadium Principality Stadium above”, yn amlwg yn disgwyl i’w darllenwyr fethu â dirnad beth gebyst yw ‘stadiwm’. Yn y llun o’r stadiwm.
Hawdd chwerthin
A daeth wythnos i’w chofio i berthynas ein papur cenedlaethol a’n hiaith genedlaethol i ben wrth alw rheolwr newydd Abertawe’n dweud ‘bore da’ yn ddigon di-hid yn “humorous”. “It’s easy,” medd yr Eidalwr wrth synnu ar yr anghrediniaeth.