Mae Cyngor Ynys Môn yn ystyried trosglwyddo ei lyfrgelloedd i ddwylo pobol leol, a chreu llyfrgelloedd sy’n cael eu rheoli gan y gymuned.
Fe fydd canlyniadau ymgynghoriad ar y pwnc yn mynd gerbron Pwyllgor Craffu Corfforaethol y cyngor ddydd Llun.
Dywedodd y cyngor fod dros 1,000 o ymatebion wedi dod drwy’r ymgynghoriad gyda sawl un yn datgan “barn gref” am y ffordd orau o ddiogelu eu llyfrgelloedd lleol.
Mae pwysau mawr ar lyfrgelloedd i arbed arian a bod llawer o’r bobol a ymatebodd “heb fynd i’r afael â hynny”.
Bydd Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes y cyngor yn cyflwyno model newydd ar gyfer darparu gwasanaeth, wedi’i gostio, ar gyfer ymgynghoriad pellach yn yr haf cyn dod yn weithredol yn 2017/18.
“Awydd” am lyfrgelloedd cymunedol
“Rydym ar hyn o bryd yn ystyried yn ofalus y ffordd orau i drawsnewid y gwasanaeth llyfrgelloedd ac mae adborth y cyhoedd wedi bod yn werthfawr,” meddai Pennaeth y Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes, Delyth Molyneux.
“Daeth amryw o themâu i’r amlwg yn ystod yr ymgynghoriad; yn eu mysg awydd am lyfrgelloedd sy’n cael eu rheoli gan y gymuned a diddordeb mewn gwirfoddoli, all helpu gwneud arbedion.
“Mae yna fodd hefyd i’r Awdurdod edrych ar ddarparu rhagor o’i wasanaethau o’r adeiladau llyfrgell bresennol,” meddai.
Ychwanegodd Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Corfforaethol, y Cynghorydd Meirion Jones, “Mae’r gwasanaeth llyfrgelloedd yn adnodd cymunedol gwerthfawr ac felly bydd rhaid ystyried unrhyw newidiadau yn ofalus iawn.
“Edrychaf ymlaen at gael trafod yr adroddiad a’i argymhellion gyda fy nghyd-aelodau ar y pwyllgor cyn cyflwyno ein sylwadau i’r Pwyllgor Gwaith i’w hystyried ymhellach.”
Bydd yr adroddiad, ynghyd ag adborth craffu, yn mynd gerbron y Pwyllgor Gwaith yn ddiweddarach y mis hwn.