Llys Ynadon Caernarfon
Mae Llys Ynadon Caernarfon yn chwilio am ragor o bobol, yn enwedig rhai ifanc, i ymgeisio i fod yn ynadon.
Bydd Noson Agored yn cael ei chynnal yn y llys ar 10 Chwefror, i ddangos i bobol a allai fod â diddordeb, y math o waith y mae ynadon yn ei wneud.
Gwaith gwirfoddol yw bod yn ynad, ac mae’n cynnwys eistedd mewn achosion llys yn y gymuned, dyfarnu os ddylai diffynnydd gael ei gadw yn y ddalfa neu ei ryddhau ar amodau llym.
Mae’r llysoedd ynadon yn delio gydag achosion fel troseddau moduro a dwyn a gallan nhw gyflwyno cosbau megis dirwyo, gwaith gwirfoddol yn y gymuned neu anfon rhywun i’r carchar am hyd at chwe mis.
Unrhyw un yn gallu ymgeisio
“Dydy nifer o bobl ddim yn sylweddoli y gall unrhyw un wneud cais i fod yn ynad,” meddai Mr Edmund Bailey, Cadeirydd Pwyllgor Ymgynghorol Gwynedd.
“Mae’r llys wir yn elwa o gael ynadon gyda chefndiroedd mor amrywiol â phosib ac rydyn ni angen recriwtio ymgeiswyr o sbectrwm o’r gymdeithas.”
Dywedodd fod unrhyw un, rhwng 18 a 65 oed, heblaw os ydych yn gweithio i’r heddlu neu’r gwasanaeth carchardai, yn gallu gwneud cais i fod yn ynad. Mae gan y llys ddiddordeb arbennig mewn recriwtio ynadon iau.
‘Rôl heriol, gwerth chweil’
Does dim rhaid i ymgeiswyr gael unrhyw gymwysterau penodol na hyfforddiant cyfreithiol, ond mae’n rhaid iddyn nhw fod wedi ymweld â sesiwn yn y llys o leiaf unwaith cyn gwneud cais.
“Mae’n rôl heriol, ond yn werth chweil yn y pen draw, yn arbennig o ran helpu’ch cymuned,” ychwanegodd Edmund Bailey.
Mae’r Noson Agored ar 10 Chwefror rhwng pump a saith o’r gloch y nosy n Llys Ynadon Caernarfon. Os ydych am wneud cais, bydd y cyfnod recriwtio yn para o 15 Chwefror at 11 Mawrth.