Mae pum person arall wedi cael eu dedfrydu yn yr achos mwyaf o dwyll yswiriant ceir erioed ym Mhrydain.

Roedd pob un ohonynt wedi cymryd rhan mewn cynllun hawliau yswiriant twyllodrus gwerth £144,000 rhwng 2009 a 2011, ac mae’r nifer o ddedfrydau yn ymwneud â’r ymchwiliad bellach wedi cyrraedd 81.

Bu’r rheiny oedd yn gyfrifol am y twyll yn gweithio o garej yn y Coed Duon, gan ffugio damweiniau ceir er mwyn hawlio arian oddi ar gwmnïau yswiriant.

Mae pedwar aelod o deulu Yandell, oedd yn rhedeg y garej ac yn bennaf gyfrifol am y twyll, eisoes wedi cael eu dedfrydu i rhwng dwy a chwe blynedd yn y carchar.

Carchar i ddau

Roedd yr achos ehangach, gafodd ei ddatgelu gan Operation Dino Heddlu Gwent, yn cynnwys 28 cais a 57 car, gan gostio dros £760,000 i’r cwmnïau yswiriant.

Y pump gafodd eu dedfrydu yn Llys y Goron Casnewydd heddiw oedd Bethan Palmer, 26, o Gasnewydd, Stephen Pegram, 49, o’r Coed Duon, Nicola Cook, 41, o Hengoed, Nicola Rees, 48, o Bargoed, a Stephen Brooks o Gaerdydd.

Cafodd Stephen Pegram ddedfryd o chwe mis yn y carchar am ei ran mewn twyll gwerth £4,200, ac fe gafodd Nicola Cook 12 mis am gais anaf o £5,500 roedd hithau wedi’i wneud.

Cafodd Bethan Palmer ddedfryd o 10 mis, Nicola Rees naw mis a Stephen Brooks chwe mis, pob un wedi’i ohirio am ddwy flynedd, gan y barnwr Daniel Williams.